Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion. Parhaodd yr effeithiau grymus hyn, medd y rhai a'i gwrandawent ef eu hunain, am dymhor maith: nid am odfa neu ddwy, a hyny yn dra anfynych, ond, mewn mesur mwy neu lai, am flynyddoedd. Yr oedd Rowlands, y pryd hwn, yn gwasanaethu eglwysi Llangeitho a Llancwnlle; a chafodd guradiaeth Llanddewi-brefi yn ychwanegol, yn fuan ar ol ei gyfnewidiad. Bu yn gwasanaethu y tair eglwys dros amser maith cyn ei droi allan; â phregethai yn gyffredin dair gwaith bob Sabboth.

Yr oedd y gwŷr da a roes gychwyniad i'r diwygiad Methodistaidd yn eglwyswyr, o ddewisiad ac o ddygiad i fyny; a choleddent cryn lawer o ragfarn o blaid yr eglwys sefydledig, ac yn erbyn ymneillduaeth fel y cyfryw; ac nid oedd dim pellach oddiwrth eu hamcan gwreiddiol, nag oedd ffurfio plaid, neu gyfundeb crefyddol, ar wahan oddiwrthi; eto, er hyn, arweiniwyd hwy, o gam i gam, i wrando ar lais cydwybod, ac ar amneidiau rhagluniaeth, ac i ymarfer â dulliau na ellid eu goddef yn y sefydliad crefyddol y perthynent yn wreiddiol iddo. Difyr a dyddorol i'r meddwl ystyriol ydyw olrhain y camrau a gymerwyd, o bryd i bryd, yn y cyfeiriad hwn, nes arwain y gwŷr da hyny, ymron yn ddiarwybod, yn rhy bell iddynt allu cilio yn ol. Yr un modd y bu gyda Luther. Mynasai droi yn ol lawer gwaith, oni bae fod y camrau a gymerasai eisoes yn ei osod dan rwymau i fyned yn mlaen.

Yr amgylchiad a arweiniodd Rowlands allan o'i gymydogaeth ei hun gyntaf, oedd yr un canlynol. Yr oedd gwraig yn Ystrad-ffin yn sir Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn byw yn nghymydogaeth Llangeitho. Ar brydiau, hi a ddeuai i ymweled â'i chwaer, a rhoddid iddi ar yr achlysuron hyny gyfleusdra i wrando Rowlands yn pregethu; ac ni fynai esgeuluso y cyfleusdra rhagorol a roddid felly iddi, gan gymaint y son oedd am dano, fel rhyw ddyn anghyffredin, ac, yn ol tyb llawer un, fel un wedi lled ddyrysu yn ei synwyrau. Wedi i'r wraig wrando Rowlands y tro cyntaf, a chael blas ar ei athrawiaeth, cenedlwyd ynddi awyddfryd cryf am gael ei wrando drachefn; ac heb yngan gair wrth neb, wele hi yn Llangeitho y Sabboth canlynol, er mawr syndod, a pheth dychryn, i'w chwaer, yr hon a ofynai iddi gyda phryder, "Beth yw y mater? A ydyw y gŵr a'r plant yn fyw ac yn iach ?" a dangosai yn ei gwedd yr ofn oedd arni fod rhyw aflwydd mawr wedi dygwydd. Atebai ei chwaer, "Mae pawb yn iach, a phob peth o'r fath yma o'r goreu." "Beth yw y mater, ynte ?" "Nis gwn yn iawn," meddai y wraig, "beth yw y mater; rhywbeth a ddywedodd eich offeiriad crac chwi (dyma'r enw a roddid arno), a barodd i mi ddyfod: arosodd ar fy meddwl drwy'r wythnos, ac ni chefais lonydd ganddo ddydd na nos." Aeth i'w wrando drachefn; ie, deuai yno wedi hyn bob Sul, er fod iddi dros ugain milldir o ffordd, a hóno yn fynyddig ac anhygyrch. Wedi hanner blwyddyn o ddiwyd gyrchu yno, teimlai awydd cryf i geisio gan y pregethwr crac ddyfod drosodd i Ystrad-ffin. Nid yw y maen—týnu yn cyfeirio yn gywirach i'r gogledd, nag y cyfeiria gras Duw yn nghalon pechadur at ei nôd yntau. Yn y fan y bendithir ef ei hun, fe'i gwneir yn fendith i eraill. Yn y fan yr