Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael!" Nid oedd, ar y pryd, ond tua phedair-ar-hugain oed, a thua'r fl., fel y tybir, 1737.

Clybu Mr. Pugh o'r Llwyn-piod—y gweinidog ymneillduol y crybwyllasom am dano—son am y cyfnewidiad a wnaed ar Rowlands, ac am y gwahaniaeth. a ymddangosai yn ei bregethau. Yr oedd Mr. Pugh yn gristion cywir, ac yn weinidog ffyddlawn a llwyddiannus. Edrychai yn mhell tuhwnt i derfynau plaid; llawenychai wrth feddwl fod llaw yr Arglwydd ar weinidog y plwyf; ac annogai ei wrandawyr i achub y cyfleusdra i'w wrando. Nid oedd Rowlands, hyd yn hyn, yn eithaf cywir yn ei olygiadau ar rai materion, er y pregethai yn rymus ac effeithiol iawn. Parai hyn i rai o bobl Mr. Pugh led-achwyn arno; ond yr hen ŵr duwiol a chall a atebai iddynt, "Gadewch ef yn llonydd. Offeryn ydyw y mae yr Arglwydd yn ei godi. Plentyn ydyw ef eto; fe'i dysg ei Dad nefol ef yn well:—yr wyf yn credu yn sicr fod yr Arglwydd, mewn modd neillduol, yn ei arddel; a bod ganddo waith mawr iddo i'w wneuthur." Bu farw yr hen weinidog duwiol cyn hir, a gwiriwyd ei eiriau yn ehelaeth yn Rowlands.

Yr oedd Rowlands, y pryd hwn, fel un newydd ddeffro o gwsg. Canfyddai y perygl aruthrol y buasai ef ei hun ynddo, a'r wedd swrth ac anystyriol oedd ar bawb o'i amgylch, heb neb yn meddwl am eu heneidiau, nes oedd ei ysbryd yn cynhyrfu ynddo. Gyda difrifwch a nerth anarferol, gan hyny, y dechreuodd efe rybuddio ei gymydogion. Dywedasai Duw wrtho, "Oni leferi di i rybuddio'r annuwiol o'i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynaf ei waed ef," Ezec. xxxiii, 8. Gwelsai ei berygl ei hun fel pechadur colledig, a theimlai gyfrifoldeb arswydlawn ei swydd. Codai ei lef yn groch fel udgorn, a dywedai wrth yr annuwiol, "Ti annuwiol, gan farw ti fyddi farw." Nid oedd ef ei hun eto yn profi nemawr o dangnefedd yr efengyl; ond yr hyn a welsai ac a glywsai, a fynegai i'w wrandawyr. Yr oedd mellt a tharanau arswydus yn ei weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel pe crynai y ddaear dan draed, gan rym y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt, a gorchfygodd ei wrandawyr. Nid perygl mewn hanes oedd perygl pechadur, bellach, gydag ef, ond perygl mewn profiad; ac oddiar brofiad y llefarai. Gwiriwyd ynddo brofiad y Salmydd, "Credais, am hyny y lleferais; cystuddiwyd fi yn ddirfawr." Clywid ganddo, bellach, beth ni chlywsid o'r blaen. Yr oedd ei ysbryd, ei agwedd, ei fuchedd, a'i weinidogaeth, oll yn newydd. Swniai difrifwch a gonestrwydd yn ei lais, a chanfyddid diragrithrwydd yn ei wedd. Er fod ei fater yn ofnadwy, yr oedd ei ysbryd yn doddedig gan dosturi, a'i lef yn swynol gan fawr ofal calon.

Dylynid ei weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyfeddol. Daethai ar y trigolion diofal fel braw disymwth; deffroid hwy megys gan ruad taranau trymion. Meddiannid y cannoedd a'r miloedd a ddeuent weithian i'w wrando, & braw aruthrol, a syrthiai llawer o honynt i lawr fel meirwon. Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreiadu ar wynebau y dyrfa fawr; brethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn