chael ei adael ganddo); ond fe wnaeth lawer mwy trwy wrando cri y rhai amddifaid, a thraethu iddynt "holl eiriau y fuchedd hon."
Gwelodd Rowlands yn fuan, nad oedd ei weinidogaeth finiog a didderbyn wyneb, yn boddhau pawb o'i blwyfolion. "Rhai a galedwyd." Y cyfryw rai a gilient o'r llan o gwbl. Ymneillduai y tylwyth hyn ar y Sul i ben un o'r bryniau gerllaw Llangeitho, i ymddifyru mewn amryw fath o chwareuon. Yr oedd ganddynt fan neillduol, cymhwys i'r amcan ofer ac anfoesol, lle y cyrchai lluaws o ieuenctyd ysgeifn ac anystyriol yr ardaloedd. Gofidiai hyn ysbryd y diwygiwr, a defnyddiai lawer o foddion i attal yr ymgynulliad llygredig hwn, ac i chwalu y nythle annuwiol; ond methu yr oedd a llwyddo. Penderfynodd, gan hyny, i fyned atynt i ganol yr ymgynulliad. Pan y cofiom nad oedd y gweinidog ar y pryd ond ieuanc, gallwn yn hawdd ganfod dewrder ei ysbryd, ac aidd ei galon dros Dduw, pryd yr anturiai i'r fath le, i gyfarfod â'r fath gynulleidfa. Ond yno yr aeth; a bu ei weinidogaeth mor rymus ac effeithiol ar ei gynulleidfa, fel na fu yno un ymgynulliad llygredig mwy. Cafodd Rowlands y tro hwn hefyd brawf o foddlonrwydd Duw ar ei waith yn pregethu yr efengyl allan ar y maes—yn yr awyr agored, ac mewn lle anghysegredig. Yr oedd hyn, mae'n wir, yn groes i drefniadau y sefydliad eglwysig y perthynai efe iddo; ond er hyny, yn foddhaol gan Dduw, ac yn dda a buddiol i ddynion. Felly y bu gyda Whitfield. Nid blys rhedeg ar draws y rheol oedd arno; ond awydd i achub eneidiau dynion. Nid anniddigrwydd ynddo i iau trefnusrwydd ac awdurdod; ond sel tŷ Dduw ydoedd yn ei ysu. Am hyny, pregethai y gŵr hynod hwnw allan, pan welai fod yr eglwysi yn rhy fychain i'w wrandawyr. A phwy a all feio arno? Pan soniodd wrth rai o'i gyfeillion am ei fwriad i bregethu yn yr awyr agored, dywedwyd wrtho y byddai hyny yn wallgofrwydd. Da fyddai pe byddai fwy o'r fath wallgofrwydd. Wedi ei gau allan o eglwysi Bristol, efe a bregethodd ar rosydd Kingswood, i filoedd a miloedd o'r glowyr. "Meddyliais," ebe'r efengylwr hynod hwnw, "y gwnawn wasanaeth i'm Crewr, yr hwn y bu y mynydd yn areithfa iddo, a'r nefoedd yn sein-fwrdd; yr hwn, pan wrthodwyd yr efengyl gan yr Iuddewon, a anfonodd ei weision i'r prif-ffyrdd a'r caeau."
HOWEL HARRIS, Ysw., yn peri cyffro yn Mrycheiniog.
Er i mi roddi blaenafiaeth lle, yn hyn o hanes, i Daniel Rowlands, ar y cyfrifon a nodwyd o'r blaen; eto, fe ymddengys yn lled sicr, mai i Howel Harris y perthyna y blaenafiaeth o ran amser.[1] Mab ydoedd y gŵr hwn i
- ↑ Mae y Parch. J. Owen, yn ei "Goffâd am D. Rowlands," yn dweyd mai anhawdd ydyw sicrhau pa un o'r ddau a ddechreuodd gyntaf. Ni a gawn fod Harris, mewn llythyr at Mr. Whitfield, dyddiedig Ion. 8, 1739, yn crybwyll am ddiwygiad mawr yn sir Aberteifi, a pharthau o sir Gaerfyrddin, fel eisoes wedi cymeryd lle trwy weinidogaeth D. Rowlands. Hawdd ydyw meddwl, nad oedd y "diwygiad mawr" hwn wedi cymeryd lle yn ebrwydd ar ol deffroad Rowlands trwy bregeth Griffith Jones. Tebycach ydyw, fod blwyddyn, dwy, neu dair fe ddichon, eisoes wedi myned heibio; ac os felly, dygir ni at yr adeg y dechreuodd Harris gynghori ei gymydogion, tua diwedd 1735, neu ddechre 1736.