uchelwr yn mhlwyf Talgarth, swydd Frycheiniog Ganwyd ef yn y fl. 1714; ac felly, yr oedd flwyddyn yn ieuangach na Daniel Rowlands. Yn ei ieuenctyd, yr oedd yn wyllt a direidus. Cafodd ysgol dda; a chadwyd ef dan addysg nes oedd yn 18 ml. oed. Bwriadai ymgeisio am yr offeiriadaeth, yn unig oddiar awydd at ddyrchafiad bydol. Ond pan oedd yn 21 ml. oed, yn y fl. 1735, wrth wrando ar weinidog y plwyf yn annog ei blwyfolion i gyfranogi o swper yr Arglwydd, Sul y Pasg canlynol, fe gafodd ar ei feddwl gydsynio â'r cynghor; ac i'r dyben o fod yn fwy cymhwys, ymheddychodd â gwr yr oedd ymrafael rhyngddo ag ef, ar ei ffordd adref o'r llan. Sul y Pasg a ddaeth; a chafwyd Harris wrth fwrdd yr Arglwydd. Nid oedd eto yn ei adnabod ei hun, na Gwaredwr pechaduriaid, oddieithr ychydig mewn hanes yn unig. Ond wrth adrodd y gyffes gyffredin, "Eu coffa sydd drwm genym, a'u baich sydd anrhaith i'w oddef," &c., dechreuodd ymholi, ai felly yr oedd gydag ef? Deallodd nad oedd ei gyffes ond geiriau gwag; a'i fod yn nesâu at fwrdd yr Arglwydd â chelwydd yn ei enau. O'r braidd y gallodd nesu yn mlaen, gan yr euogrwydd a deimlai; eto, trwy addaw iddo ei hun yr ymroddai i ddylyn buchedd newydd rhagllaw, efe a ddaeth rhagddo. Gwisgodd y teimladau hyn i ffordd yn fuan; ond trwy ddarllen rhyw lyfrau, yn enwedig un a ysgrifenwyd gan Bryan Dupha, ar y gorchymynion, adnewyddwyd a dyfnhawyd ei argyhoeddiadau, ac ni chafodd ei ysbryd blinderog un math o orphwysfa hyd mis Mehefin yn y flwyddyn hòno. Hyn a gafodd trwy gael golwg ar Grist yn ei gyflawnder diysbydd, a'i ffyddlondeb diball, yn yr efengyl, nes toddi ei enaid mewn llwyr-ymroddiad i Grist a'i wasanaeth o hyny allan.
Yn mis Tachwedd canlynol, aeth i Rydychain, gan fwriadu myned i'r weinidogaeth; ond wedi bod yno am ychydig amser, dychwelodd yn ol i Gymru, wedi llwyr flino ar annhrefn ac anfoes y lle hwnw. Yn fuan ar ol ei ddychweliad, cafodd ar ei feddwl gynghori pechaduriaid o dŷ i dŷ, yn ei blwyf genedigol ei hun; ac yn y plwyfydd cyfagos. Gan ei bod yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1735, pan aethai i Rydychain, nis gallwn dybied ei fod wedi dechreu cynghori cyn y fl. 1736. Pa fodd bynag, parodd ei gynghorion a'i weddiau yn y tai ar hyd y cymydogaethau, effeithiau grymus iawn ar laweroedd, a lledaenodd son mawr am dano. Byddai y fath nerth yn cydfyned â'i ymadroddion, nes y byddai ei wrandawyr yn tori allan i waeddi yn y fan, dan deimladau cyffrous yn yr olwg ar drueni eu cyflyrau. Codwyd addoliad teuluaidd mewn llawer o dai yn y cymydogaethau, a chyrchai lluaws mawr i'r eglwysi, o ddynion na arferent wneuthur hyny o'r blaen. Yn y cyfamser, cododd erlidigaeth yn erbyn Harris. "Yr oedd yn awr," meddai ef ei hun, "yn llawn bryd i'r gelyn ymosod mewn dull gwahanol; am hyny, parodd, nid yn unig i'r werinos fy ngwarthruddo, ond hefyd i'r ynadon a'r clerigwyr derfysgu;—y naill yn fy mygwth i, a phawb eraill a'm derbyniai i dŷ, â dirwyon; a'r lleill a ddangosent eu dygasedd trwy geisio fy nigaloni yn mhob modd." Ond er i hyn roddi attalfa am dymhor byr, eto nid oedd y gwaith da a gychwynasid ddim wedi ei ddiffodd: cyfarfyddai Harris yn