Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

neu chwech oed, gyda hi i wrando y Parch. G. Jones, Llanddowror. Yr oedd gan ei fam gryn ddysgwyliad y byddai ei mab hynaf hwn yn ddyn o enwogrwydd; ond hi a fu farw cyn gweled pa fath le a lanwai, na pha faint o enwogrwydd a gyrhaeddai. Bu ei dad hefyd farw yn mhen blwyddyn ar ol ei fam, a gadawyd y tri phlentyn yn amddifaid―y ferch yn 14eg oed, Peter yn 12eg, a Dafydd yn 10. Cymerwyd yr ieuangaf gan ewythr iddo o du ei dad; a'i frawd gan ewythr arall o du ei fam; a'u chwaer gan foneddiges o Fristol, gyda'r hon yr arosodd rai blynyddau, ac y bu farw. Ymddengys fod P. Williams yn hoff iawn o ddysgu o'i ieuenctyd, â'i fryd er yn ieuanc i fod yn weinidog yr efengyl; er nad oedd eto yn meddu profiadau dwysion, nac efengylaidd. Pan oedd oddeutu 17 oed, aeth i'r athrofa i Gaerfyrddin, y pryd hyny dan ofal y Parch. T. Einion. Cyn ei ymadawiad o'r athrofa, daeth y Parch. George Whitfield i'r dref, a chyhoeddwyd ef i bregethu yno. Bu yn wiw gan athraw yr ysgol roi gwaharddiad i'r ysgolorion i wrando ar y dyeithr-ddyn a ddysgwylid i'r dref; a hyny, ebe fe, "o herwydd y mae yn pregethu pechod gwreiddiol, a bod yn rhaid geni dyn drachefn; ac hefyd, bod yn rhaid cyfiawnhau dyn gerbron Duw, trwy ffydd heb weithredoedd." Ond er y gwaharddiad a roddasid, aeth pedwar o'r ysgolorion, ac yn eu plith Peter Williams, yn ddirgel i wrando ar Mr. Whitfield; a bu yr amgylchiad iddo yn fywyd o feirw. Trywanodd y weinidogaeth ei galon; "ac yr oeddwn," meddai ef ei hun, "yn crynu drwy bob aelod;" ac o hyny allan teimlai ei fod mewn byd newydd. Nid oedd flas ganddo, bellach, ar yr hen ddifyrwch; a phrin y gallai, erbyn hyn, osod ei feddwl ar ei wers yn yr ysgol. Deallodd ei feistr pa fodd yr oedd arno, ond ni ynganodd ddim wrtho; eithr ei hen gyfeillion, bellach, a'i gadawsant: aent heibio iddo ar yr heol, heb gymeryd arnynt ei adnabod. "Yr oeddwn, bellach, yn Fethodist," meddai ef ei hun, "ac yn eu cyfrif hwy, digon oedd hyny i roddi anfri tragwyddol arnaf."

Addefai y gŵr ieuanc ei fod, ar hyn o bryd, wedi ei adael iddo ei hunan. "Câr a chyfaill (meddai) a'm gadawsant." Ni wyddai am neb i ymgynghori ag ef, i dderbyn cyfarwyddyd a chydymdeimlad, ond un ferch ieuanc, sef merch y gŵr y lletyai efe yn ei dŷ, yr hon a gafodd ddychweliad at Dduw dan yr un bregeth ag yntau.

Ymadawodd o'r athrofa pan oedd yn 21 oed; ac wedi bod rhyw gymaint o amser yn cadw ysgol yn Nghynwil, gerllaw Caerfyrddin, ymbarotodd i ymofyn am urddau eglwysig, yn yr hyn y llwyddodd yn well na'i ddysgwyliad; oblegid, er maint y drwgdybiaeth am ei dueddiadau Methodistaidd, cafodd ei urddo yn ddiacon yn yr eglwys sefydledig. Bu yn gwasanaethu eglwys Cymun, yn swydd Caerfyrddin, am ryw hyd. Yr oedd gofal y plwyf arno ef, gan na ddeuai y periglor iddo onid unwaith yn y flwyddyn. Dygwyddodd y pryd hyny, sef tua'r fl. 1745, fod son mawr fod y Pretender ar dirio yn Lloegr, a chymeryd y goron; a mawr oedd y cyffro a'r ofnau yn mysg rhyw ddosbeirth o ddynion. Parai yr ofnau hyn i rai yn y plwyf weddio rhag y fath anffawd; a defnyddiodd y curad ieuanc yr achlysur i