Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gynghori ei blwyfolion i ymgymull yn wythnosol i weddio yntau a'u cyfarfyddai, ac a'u cynghorai, ac a weddiai gyda hwy. Pa faint bynag o les a wnaeth efe i eraill trwy y moddion hyn, tynodd ragfarn arno ei hun. Cryfhaodd y dyb ei fod yn tueddu yn ormodol at arferion y dosbarth dirmygedig a elwid Methodistiaid. Hyn, gyda'i lafur i wella rhyw ddefodau pabaidd a arferid ganddynt ar farwolaethau, a'i waith yn ceryddu yn llym ryw anfoes ac ysgafnder a dorai allan weithiau yn yr eglwys ar y Sabbothau, a osododd sail achwyniad arno wrth y periglor, a chafodd ei droi allan o eglwys Cymun, a bygythiodd y periglor yr achwynai arno wrth yr esgob hefyd, a hyn yn ddiamheu a wnaeth; oblegid cafodd y curad, druan, yn fuan ei alw o flaen ei arglwyddiaeth. Cyhuddwyd ef o bregethu mewn plwyfau eraill, a gwaharddwyd iddo bregethu am dair blynedd; ac os ymddygai yn yr ysbaid hyny yn ddiachwyn arno, y rhoddid ei gwbl urddau iddo; ac ar hyn, bu gorfod arno ymadael o ŵydd yr esgob yn lled ddirodres.

Aeth ar ol hyny i Abertawe; a bu yn gwasanaethu dwy o eglwysi yno—un yn Gymraeg, a'r llall yn Saesonaeg. Ni fu yma yn hir, na ddeallodd fod yr un gwrthwynebiad iddo yn cryfhau yn y lle hwn hefyd. Ni fynai boneddigion Abertawe mo'i athrawiaeth, ac ni chymerent eu llesteirio i ddylyn eu hen arferion. Aeth drachefn i Langranog, yn swydd Aberteifi; ond ni fu yno ond deufis. Ennillodd yn yr amser hyny sylw a chalon llawer o'r plwyfolion; ond gosodasai gŵr boneddig yn y gymydogaeth ei fryd ar ei fwrw ef ymaith; a hyny a wnaed, gan attal oddiwrtho y tâl a ddisgynai iddo am ei ddeufis llafur.

Yn fuan ar ol hyn, clywodd son am ryw gynghorwr enwog o swydd Benfro (ond ni roddir ei enw), ac aeth i'w wrando. Ymddengys fod gwlith y nef wedi ireiddio ei ysbryd dan y bregeth, fel ag i beri iddo, ar ei diwedd, dori allan mewn gweddi, nes oedd y gynulleidfa oll mewn syndod aruthrol, gan ymofyn pwy a allai efe fod, ac o ba le y daethai. Bu yr amgylchiad hwn, pa fodd bynag, yn foddion i gylymu y bobl ac yntau wrth eu gilydd dygwyd ef gan y pregethwr i gyfarfod ag oedd ar gael ei gynal gan y Methodistiaid y pryd hyny, ar gyffiniau swydd Benfro. Yr oedd hyn tua'r f. 1748. Dyma'r pryd y daeth y Parch. P. Williams i undeb â'r Methodistiaid, yn mysg y rhai y bu yn teithio ac yn llafurio yn ffyddlawn a llwyddiannus dros lawer o flynyddoedd.

Nid oedd y gŵr hwn, fel yr ymddengys, ddim eto wedi cyrhaedd graddau helaeth o wybodaeth grefyddol, mewn cydmhariaeth i rai eraill; nid oedd eto, yn ol ei gyfaddefiad ei hun, wedi deall y gwahaniaeth ag oedd rhwng athrawiaethau a sectau. A pha fodd y gallai? Nid oedd nemawr neb o gyffelyb feddwl iddo ar gael yn yr holl wlad. Yr oedd y pregethau a glywsai hyd yn hyn yn eglwys Loegr, gan mwyaf yn llawn o ûs a sothach, ac yn wag o efengyl. Nid oedd natur yr addysg a dderbyniasai yn yr ysgol, yn gwasanaethu nemawr i eangu a chywiro ei syniadau am bethau teyrnas nefoedd; ac nid syn genym, gan hyny, ei gael ar ei ymuniad cyntaf â'r Meth-