Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol III.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

-y-celyn, hyd yn hyn yn aros o fewn terfynau ei guradiaeth; Howel Harris ei hun oedd yn rhydd i wibio ar hyd y wlad. Ac nid oedd iddo i'w ddysgwyl yn mhob man "ond rhwymau a blinderau." Yr oedd ei wrthwynebwyr yn lluosog a'i gynorthwywyr yn ychydig; yr oedd ei fanteision yn brinion, a'i anhawsderau yn ddirif. Pan y deuai i'r wlad, nid oedd un addoldŷ i'w dderbyn, na chynulleidfa reolaidd yn ei ddysgwyl. Ni dderbynid mono i'r llanau er mai llanwr y dywedai ei fod; ac nid awyddus a pharod oedd yntau i fyned i gapelau ymneillduol, pe buasai rhai i'w cael. Yr oedd yr eglwyswyr yn edrych arno yn derfysgwr direol ar eu heddwch, ac ni fynent ymgyfrinachu âg ef. Y gwŷr mawr a wgent arno am afreolaeth, a'r werin a'u baeddent fel terfysgwr yn y wlad, a bradwr i'w heglwys. Oddifewn yr oedd ofnau ac oddiallan ymladdau. Os mynai gynulleidfa i'w chyfarch, rhaid oedd iddo sefyll ar fin y fynwent, i anerch y bobl wrth ddyfod allan o'r llan; neu fyned i'r ŵylmabsant i ganol dyhirwyr; neu ymosod ar oferwyr y wlad, pan yn gynulledig wrth eu chwareuyddiaethau ynfyd. Prin y dangosid iddo y ffordd nac y derbynid ef i dŷ, os gwybyddid pwy ydoedd. Eto, yn mlaen yr âi. Gosodai ei wyneb fel callestr. Yr oedd eiddigedd yn tanio ei fynwes; gwroldeb yn gwisgo ei wynebpryd, a grym digyffelyb yn nodweddu ei lais. Effaith gyffredinol ei weinidogaeth ydoedd naill ai colynu ei wrandawyr i gynddaredd, neu eu darostwng mewn braw, a'u cylymu mewn astudrwydd. Nid anfynych y syrthia dynion caledion i lewygfeydd gan rym ei gyfarchiadau. Dywedir fod math o swyn yn ei floedd, ag a dynai ddynion ato, gan eu darostwng iddo. Cymhwys ydoedd ymhob modd i ddarostwng y bryniau, i gyfodi y pantiau, ac i wneuthur i'r Arglwydd bobl barod.

Nid ydym yn alluog i olrhain yr ysgogiad bob yn gam yn y wlad hon, mwy na gwledydd eraill, gan fod yr hanes boreaf, i fesur mawr, wedi cyfrgolli er ys blynyddau; eto, y mae genym sicrwydd yn "Nghofnodau Trefecca" fod yma amrywiol fân gymdeithasau wedi ymgrynhoi at eu gilydd, mor fore a'r fl. 1742. A dyledus oeddynt oll, ymron, i lafur cenadol Harris am eu ffurfiad. Ymddengys hefyd fod yma amryw gynghorwyr, mwy neu lai eu doniau a'u dylanwad, wedi cyfodi yn yr eglwysi hyny, y rhai a osodwyd gan y cyrddau misol neu chwarterol, i lafurio mewn cylchoedd pennodol; rhai i gyfarch yr aelodau yn unig yn y cylchoedd priodol; rhai i gyfarch yr aelodau yn unig yn y cyfarfodydd neillduol; eraill yn fwy cyhoeddus yn eu cymydogaethau eu hunain; a rhai i fyned oddiamgylch yn fwy cyffredinol. Enwir dau ŵr fel arolygwyr; un, sef Thomas William i gymeryd gofal y cymdeithasau yn rhan o Forganwg a Mynwy, o'r Groeswen hyd Llantrisaint; y llall, sef John Richard, i ofalu am y rhan orllewinol o sir Forganwg a rhanau o sir Gaerfyrddin. Y ddau hyn, tybygid, oeddynt y gwŷr mwyaf amlwg yn y sir hon; ond yr oedd gyda hwy luaws o frodyr da eu gair, ond llai eu doniau, yn eu cynorthwyo, mewn cylchoedd llai. Yr oedd yma hefyd un John Belcher, yr hwn, fel yr ymddengys, oedd yn meddu talentau helaethach