ond eraill, mwy eu tosturi, a safasant o'i blaid, ac a'i hachubasent o'u dwylaw. Yr oedd yno, ar y pryd, un gŵr, yr hwn oedd yn byw yn Llandremôruchaf, hwn a'i cymerodd gydag ef i'w gartref, ac a'i hymgeleddodd; agorodd hefyd ddrws ei dŷ i dderbyn pregethu'r efengyl. Yn y tŷ hwn y bu pregethu am flynyddau; ac ynddo y cynaliai y Methodistiaid cyntefig amryw o'u cyfarfodydd misol, fel y crybwyllir yn hen ysgrifion Trefecca ; yn y lle hwn hefyd y dechreuodd y gymdeithas eglwysig sydd yn awr yn gwersyllu yn y Goppa-fach.
Mae Hopkin Bevan yn dyweyd, "Mi a glywais hefyd am ddyfodiad Howel Harris i bregethu yno, i le a elwir Croes Eynon, yn mhlwyf Llangyfelach, pan oedd y campio a'r ymladd ceiliogod yn myned yn mlaen, a bod y weinidogaeth wedi dal gafael ar amryw oedd yn y ddawns. Bum yn siared," meddai yr hen ŵr parchedig, "â rhai o honynt amryw weithiau. Cafodd un Mr. John Powell, o Gefn-fforest, ei ddal gan y gair yno. Aeth y gŵr hwn yn mhen blynyddau at yr Ymneillduwyr i'r Mynydd-bach, lle yr oedd. Lewis Rees yn weinidog; bu hefyd yn llefaru yn eu plith, a chadwodd ei ddillad yn lan hyd ddydd ei farwolaeth."
Sonir hefyd am ŵr arall, o'r enw Hopkins, neu Hopkin John Hopkin, fel y gelwid ef weithiau, â'r hwn y bu Hopkin Bevan yn ymddyddan. Saer maen ydoedd wrth ei alwedigaeth. Ennillwyd ef yn fore at Fethodistiaeth, ac agorodd ei dŷ i dderbyn pregethu, ac i gadw cyfarfodydd eglwysig. Dywedir y byddai pump o ganghenau eglwysig yn arfer ymgynull yn ei dŷ yn fisol, a hyny dros flynyddau; yr oedd Harris yn ymweled yn fynych â'r eglwysi hyn; a manwl iawn y dywedir fod yr arolygiaeth arnynt. Yr oedd llyfr yn cael ei gadw ganddynt, yn yr hwn yr oedd enwau yr holl aelodau, a phrofiad pob un gogyfer a'i enw, yn dynodi pa un ai Cristion gwan dan ei ofnau, neu, un wedi cyrhaedd graddau o sicrwydd ffydd, a fyddai. A phan y byddid yn ymddyddan drachefn â'r aelodau, edrychid i'r llyfr, modd y gwelid eu cynydd neu eu hadfeiliad.
Bu Hopkin John Hopkin yn ymroddgar iawn a ffyddlon gyda'r achos, yn y blynyddau hyny; a'i wraig hefyd oedd o'r gyfrinach, yr hon, yn ol tystiolaeth William Thomas, o'r Pil, ydoedd yn Gristion cywir a dysglaer, ac yn rhagori o ran ei chrefydd, i raddau mawr, ar ei gŵr. Ond fe gyrhaeddodd effeithiau yr anghydwelediad rhwng Harris a Rowlands hyd i'r lle hwn. Oerodd Hopkin i raddau yn ei sel, symudodd i Abertawe i fyw, a chiliodd oddiwrth ei frodyr ar ei ben ei hun; yn enwedigol, ar ol claddu ei wraig. Cafodd Hopkin Bevan gyfleusdra i ymddyddan ag ef yn nhŷ merch iddo, yr hon a briodasai offeiriad Llangyfelach; ac yn nhŷ yr hon y treuliodd yr hen ŵr ei thad flynyddau diweddaf ei oes. Wedi symudiad Hopkin i Abertawe, nychodd yr achos yn Ngroes-Eynon i fesur mawr, ac yn raddol fe ddiflanodd.
Symudwyd y cyfarfod eglwysig o Llandremôr, yn mhen blynyddau, i'r Gwynlais ucha', lle yr oedd gŵr o'r enw Mr. John Walters, barcer a thyddynwr, yn aneddu. Yr oedd y gŵr hwn a'i deulu yn grefyddol, ac yn neillduol