Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Pan o fewn ychydig i ddeugain mlwydd oed, ac wedi pregethu gyda llawer o gymeradwyaeth am 18 mlynedd, y mae yn teimlo fod arno eisiau rhywbeth tuag at bregethu i fuddioldeb ychwanegol at yr hyn a gai trwy weddi a myfyrdod yn llofft y Pandy pan y byddai eraill yn cysgu, ac at yr hyn a gai wrth gerdded gyda ffos y Felin, ac y mae yn penderfynu myned i'r ysgol i Wrexham at y Parch. John Hughes, sef i Athrofa Gogledd Cymru y pryd hwnw. Ar ei ymadawiad o'r ysgol pan yn 41 mlwydd oed, y mae yn priodi, ac yn myned i fyw i'r Bala, ac yn mhen blwyddyn arall y mae yn symud i Fachynlleth, lle y treuliodd weddill ei oes. Y mae felly yn gadael Sir Feirionydd pan yn 42 mlwydd oed; ond cafodd Llanuwchllyn a Sir Feirionydd lawer o'i weinidogaeth fuddiol ar ol hyny.

Wedi cyrhaedd fel hyn tua phen deng mlynedd ar hugain er pan y sefydlwyd y seiat yn y Gwndwn, cawn fod yr amseroedd wedi newid. Y mae yr hen arweinwyr enwog yn y Sir wedi huno. Lle Mr. Charles, Mr. John Evans a Mr. D. Edwards yn wag yn y Bala. Dr. Lewis hefyd wedi ymadael o Llanuwchllyn er's deng mlynedd, a Michael Jones wedi ymsefydlu yn ei le ef yn weinidog yn Rhosyfedwen. Yr ydym yn casglu fod yr achos Methodistaidd yn graddol gynyddu a chryfhau ymgryfhau mewn nerth hwyrach gymaint ag oedd yn gynyddu mewn rhif. Heb fod yn mhell oddi wrth y cyfnod hwn, daeth Mr. John Jones, Shop, mab Mr. William Jones, Rhiwaedog, i'r ardal, yr hwn fu yn gyfnerthiad nid bychan i'r ddiaconiaeth yn y lle. Yn yr amser hwn daeth ystorm gref i chwythu ar hen eglwys yr Annibynwyr yn y lle, yr hyn fu yn achlysur hwyrach i'r ddau enwad ddyfod o hyny allan yn fwy cyf- artal mewn rhif a dylanwad yn yr ardal. Hyn, ynghyd a'r ffaith fod a wnelo y gwrthweithiad yn erbyn uwch-Galfiniaeth, yr hwn a deimlid hefyd yn mysg y Methodistiaid mewn lliaws o fanau ar sefyllfa crefydd, a bair nad yw yn hollol anaddas cyfeirio at yr amgylchiad yn y cysylltiad hwn. Os Sir Fflint oedd y maes brwydr yn benaf yn mhlith y Methodistiaid yn y dadleuon Duwinyddol, ymddenys mai Llanuwchllyn oedd y maes brwydr gyda'r Annibynwyr. Yr oedd eglwys yr Annibynwyr yn Llanuwchllyn yn gref a lliosog er's ugeiniau o flynyddoedd. Yn ol adroddiad Mr. Josiah Thompson, yr oedd cynulleidfa Llanuwchllyn, neu y rhai y pregethai Benjamin Evans y gweinidog iddynt mewn gwahanol fanau yn y flwyddyn 1773, yn rhifo 600. Yn 1794 daeth Dr. George Lewis yn weinidog iddi, a bu yn ei phorthi a'i bugeilio am yn agos i ddeunaw mlynedd. Am dano ef, dywedir, "Dr. Lewis o bawb a fu yma a osododd fwyaf o'i ddelw ar y wlad. Magwyd to o ddynion dan ei weinidogaeth na welir eu cyffelyb ond anfynych mewn cym-