Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/195

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel hynaf yr ardaloedd, yn un bychan a salw. Helaethwyd ychydig arno yn mhen tuag ugain mlynedd ar ol ei adeiladu. Ond yn y flwyddyn 1860, ymgymerwyd a'i ail adeiladu yn y ffurf a'r maint presenol, a thua'r un adeg adeiladwyd ysgoldy gerllaw iddo, lle y buwyd yn cadw ysgol ddyddiol am flynyddoedd, hyd nes y caed Ysgol y Bwrdd yn Maesywaen ar gyfer ardaloedd Llidiardau a Thalybont. Y mae yr ail gapel yn un cydmarol cang ac o wneuthuriad cadarn, ond nid mor gyfleus oddimewn ag y gallasai fod. Yn 1900, ail drefnwyd ef yn gwbl oddimewn, a gwnaed ef yn debyg i'r capelau diweddar cyfleus a geir mewn ardaloedd eraill. Sicrheir fod yr hen gapel a'r ail gapel yn cael eu hagoryd yn ddiddyled, ac y mae yr haelioni a ddangosir yn y misoedd hyn, yn rhoi sail i obeithio y bydd yr adgyweiriad costus a wneir arno y tro hwn yn cael talu am dano yn fuan.

Cafodd yr achos yn Llidiardau golled drom rhwng 1862 ac 1867, yn marwolaeth y ddau bregethwr hybarch, a'r blaenor dylanwadol o Bencelli. Eto yr oedd ysgwyddau Mr. Jones, Llwyn'rodyn, a Mr. W. Davies yn aros dan yr achos wedi colli yr henafgwyr uchod. Ond pan y symudwyd hwy eu dau yn 1875, un trwy angeu, a'r llall trwy newid ei drigfan, yr oedd y golled yn ymddangos yn llawer anhaws ei dwyn, am nad oedd rhai amlwg yn y golwg i gymeryd yr arweiniad yn eu lle. Yn y flwyddyn 1875, pa fodd bynag, dewiswyd Mri. Edward Edwards, Llwyn'rodyn, ac Edward Pugh, Cynythog. Wedi hyny, yn y flwyddyn 1892, dewiswyd Mr. Daniel Jones, Frongain, ac yn 1894, Mr. John Evans, Bryn newydd, yr hwn ni chafodd ond oes fer i wasanaethu fel blaenor. Yn mhen dwy flynedd wedi hyny, yn y flwyddyn 1896, dewiswyd Mr. John Roberts, Cynythog ganol, ac yn 1899, Mri. R. Rowlands, Gwernbisaig, ac Evan Davies, Pentre. Y pedwar blaenor geir yma yn awr ydynt, Daniel Jones, John Roberts, R. Rowlands, ac E. Davies. Yn yr eglwys hon y dechreuodd y Parch. G. Ceidiog Roberts bregethu, yn 1873. Brodor o Landrillo ydyw Mr. Roberts, ond gan ei fod yn cadw ysgol yn ardal y Llidiardau ar y pryd, ni a gawn fod y Cyfarfod Misol yn Llwyneinion yn Chwefror 1873, yn penodi y Parch. E. Peters a Mr. John Evans, Penbryn, i gymeryd llais eglwys Llidiardau ar ei achos. Wedi myned drwy bob prawf fel pregethwr ieuanc, a gorphen ei dymhor yn yr Athrofa, cafodd alwad i fugeilio eglwys Maentwrog. Brodor o'r ardal hon hefyd yw y Parch. Edward Roberts,[1] yn awr o Venedocia, Ohio. Dygwyd ef i fyny yn ardal Llid-

  1. Ceir cofnodiad canlynol yn dwyn perthynas a'r Parch. Edward Roberts, yn Nghofnodau Cyfarfod Misol Rhydymeirch, Medi 9, 10, 1878. Dangosodd y cyfarfod ei gymerydwyaeth o'r hyn a wnaed yn Cynwyd a Llidiardau gydag achos Hugh Edwards ac Edward Roberts, y ddau yn ymgeisydd am y weinidogaeth, a phenderfynwyd iddynt gael eu harholi yn mhen y ddeufis yn Dinmael, gan y Parch. J. H. Hughes am Swyddau Crist.