Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/196

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

187 iardau, a dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1878, yn y Cyfarfod Misol hwn, ond symudodd i America yn fuan, ac yno, yn y flwydd- yn 1884, ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth.

Er ys mwy na deng mlynedd bellach, y mae yr eglwys hon mewn undeb ag eglwys y Celyn, wedi ymgymeryd a bugeiliaeth eglwysig, ac amryw o wyr ieuainc wedi bod yn olynol yn gofalu am dani. Y cyntaf oedd Mr. J. J. Hughes. Yr ail oedd Mr. Robert Jones o Gyffylliog, yr hwn sydd yn awr yn genhadwr yn Cassia. Wedi hyny bu Mr. Thomas Jones, yn awr o Coedllai, yn bugeilio yr eglwysi hyn am tua thair blynedd. Yn fuan iawn ar ol ei ymadaw- iad ef, yn 1897, rhoddwyd galwad i Mr. John Rowlands, brodor of Fangor. Erbyn hyn, y mae yr olaf a enwyd wedi symud i fugeilio eglwys y Cysegr yn Arfon, a'r eglwysi mewn trafodaeth a gwr ieuanc arall gyda golwg ar sicrhau ei wasanaeth fel bugail iddynt. Y mae yr ardal hon wedi ei henill yn lled lwyr i wrando yr efengyl er ys llawer o flynyddoedd, ond nid yw y gwrandawyr wedi eu henill mor llwyr i broffesu ag yn ardal Talybont, ac oherwydd lleihad yn nifer y boblogaeth, nid yw y gynulleidfa mor liosog ag ydoedd ddeng mlynedd ar hugain yn ol, ond y mae rhif yr aelodau eglwysig yn graddol gynyddu. Yn y flwyddyn 1871, fel y canlyn. yr oedd sefyllfa yr achos:-Gwrandawyr, 218. Cymunwyr, 79. Aelodau yr Ysgol Sabbothol, 146. Y casgliad at y Weinidogaeth, £25 68. 2c. Yn ol cyfrif am y flwyddyn 1898:-Gwrandawyr, 145. Cymunwyr, 86. Aelodau yr Ysgol Sabbothol, 113. Casgliad at y Weinidogaeth, 32 18. 10c. Blaenoriaid Llidiardan. Robert Roberts, Pencelli Thomas Roberts John Roberts, Cae'rlion Robert Roberts (ieu.). Pencelli Owen Davies Dewiswyd. Bu Farw. 1815 1866 1815 1833 1846 1857 1857 1875 1875 John Jones, Llwyn'rodyn William Davies (yn byw yn awr yn y Bala) Edward Edwards, Llwyn rodyn Edward Pugh, Cynythog Evan Parry, Llwyn'rodyn Daniel Jones, Frongain John Evans, Bryn newydd John Roberts, Cynythog ganol Robert Rowlands, Gwernbisaig Evan Davies, Pentre Dewiswyd Mr. Parry yn flaenor yn Cwmtirmynach yn 1882, a yn gwasanaethu fel blaenor yn Llidiardau am rai blynyddoedd, cyn ymadael o hono o gylch y Cyfarfod Misol yn 1895. bu 1875 1895 1892 1894 1896 1899 1899