Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddeuddyn hyn eu bwrw allan o gylch y teulu a phob cymdeithas, ac ar ol blynyddoedd o ddyoddef tawel oherwydd eu proffes, y mae y ddau hyn yn ymfudo i Pensylfania yn y flwyddyn 1690. Cawsant heddwch a chyfeillach amryw o'u hen gydnabod yno am saith mlynedd. Bu y ddau farw o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd, yn y flwyddyn 1697, y flwyddyn yr oedd Rowland Ellis yn ymfudo i'r wlad hono.

Yr oedd gan y Crynwyr amryw leoedd cyfarfod yn amgylchoedd Dolgellau, megis Tyddynygarreg, ger Rhiwspardyn, a Llwyngwril. Felly hefyd yr oedd ganddynt yn amgylchoedd y Bala, megis Hendremawr yn ardal Talybont, a'r Wernfawr yn ardal Cwmtirmynach. Cawn y byddai Richard Davies a Charles Lloyd yn ymweled â'r deadelloedd hyn yn achlysur Yn tudalen 88 o Gofiant Richard Davies, dywedir: Tua'r flwyddyn 1675, clywsom fod erlid tost gan gyhuddwyr yn Sir Feirionydd, yn enwedig yn Mhenllyn yn agos i'r Bala, yn yr hwn amser yr ychwanegodd ein cyfarfodydd ni yno, ac y deuai llawer o bobl iddynt. Yr oedd pwys ar fy nghyfaill Charles Lloyd a minau i ymweled â'r cyfarfodydd hyny, lle y cawsom gyfarfod ar y dydd cyntaf o'r wythnos, yn nhŷ Cadwaladr Thomas, a elwid Wernfawr. Yr oedd yno liaws o bobl, mwy nag a allai y tŷ gynwys. Daeth dau gyhuddwr i mewn, ac arosasant holl amser y cyfarfod; ac wedi i Charles Lloyd a minau ryddhau ein hunain mewn ffordd o dystiolaeth, cafodd deall y bobl ei agoryd yn fawr iawn yn mhethau Duw, ac am y ffordd i'w deyrnas Ef yn yr iaith Gymraeg, yn yr hon y gorphenais y cyfarfod hyfryd wedi i'r Arglwydd ein harddelwi ni a'i allu mawr a'i bresenoldeb, er ein cysur ni, a boddhad y gwrandawyr. Aeth y ddau gyhuddwr ar eu gliniau gyda ni. Pan oeddwn i yn gweddio, un ohonynt a elwid Robert Evans, a grynodd yn ddirfawr, a chwedi i mi orphen y cyfarfod, y Robert Evans hwnw a gymerodd bapyr allan o'i logell, ac a safodd o'n blaenau gyda llawer o grynu ac ysgwyd, ac ni allai ddweyd dim wrthym ond gwarant, gwarant, gwarant. Safodd cyfeillion yn llonydd yn y meddiant o'r bywyd a'r gallu hwnw â pha un y bendithiasai Duw y dydd hwnw, ac ni ddywedasom ni ddim wrtho, nac yntau wrthym ninau, yr hyn oedd braidd yn syndod gan yr edrychwyr, oblegid yr oedd ef yn ddyn adwythig, ac a wnaethai lawer o ddrwg i gyfeillion yn y parthau hyny. O'r diwedd, gofynais iddo pa beth oedd ganddo yno? dywedodd yntau fod ganddo warant. Nid oedd yn foddlawn i Richard Davies a Charles Lloyd gael gweled y warant, a gwybod pwy o'r Ynadon oedd wedi ei llawnodi; ond o'r diwedd, gadawodd iddynt ei gweled, pan y canfuant mai y Milwriad Price o'r Rhiwlas, ar Milwriad Salisbury o'r Rûg, oedd wedi rhoddi y warant.