Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond eu bywydau hefyd. Ar ol goddef erledigaeth am flynyddoedd y mae Rowland Ellis yn myned i America, i ddechreu, i edrych am le iddo ei hun a'i deulu i ymsefydlu; ac yn mhen amser, yn 1697, ar ol marwolaeth ei dad, y mae yn gwerthu y Brynmawr, ac yn hwylio drosodd gyda'i briod a'i ferch i Bensylfania i fyw ar ei etifeddiaeth ei hun yno. Bu yn hollol ymroddedig i'r weinidogaeth am ugain mlynedd yn mhlith y Crynwyr yn Pensylfania, ac yno y bu farw yn y flwyddyn 1731, yn 81 mlwydd oed.

Un arall o'r Crynwyr uchel ei sefyllfa yn y byd yn yr ardal hon oedd Robert Owen, Dolserau. Yr oedd ef yn ddisgynydd o'r Barwn Owen, ac hefyd yn ewythr brawd ei dad i Hugh Owen, Bronclydwr. Ymddengys i Barwn Owen, pan y bu farw trwy ddwylaw gwaedlyd y Gwylliaid Cochion, adael gweddw ac unarddeg o blant ar ei ôl. Daeth y plant hyn mewn . amser yn gychwyniad i amryw o deuluoedd uchel y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd, a Robert, y pumed o'r meibion, oedd boncyff teulu Dolserau. Priododd hwn ferch Bronclydwr, a ffrwyth y briodas hon oedd Humphrey Owen, Dolserau, yr hwn y bu iddo ddau fab, Robert a Harri. Gan fod dwy etifeddiaeth ganddo, y mae yn rhoi Bronyclydwr i Harri—tad y pregethwr o Fronclydwr, ac yn rhoddi Dolserau i Robert, ei fab. Robert Owen hwn, etifedd Dolserau, a ddaeth yn ddisgybl i George Fox a John ap John, ac y galwyd arno fel eraill o'r Crynwyr i oddef erledigaeth chwerw. Priododd Robert Owen, Jane merch Robert Vaughan yr Hengwrt, yr hynafiaethydd. Yr oedd Jane Owen yn ferch o alluoedd cryfion, a phan y byddai Robert Owen ar ei deithiau pregethwrol ar hyd Sir Feirionydd, byddai Jane ei wraig yn agor ei thŷ i ymgeleddu y Crynwyr a ymlidid o'u cartrefi gan yr erlidwyr. Bu Richard Davies, Cloddiau Cochion, ar ymweliad â'r teulu hwn. Medd efe yn hanes ei fywyd: Yn y flwyddyn 1662, ar ol gadael Penllyn, daethum i dŷ Robert Owen, Dolserau, yn agos i Ddolgellau, yr hwn a fuasai ynad heddwch ac yn swyddog milwraidd yn amser Oliver. Ond fel y dywed Mr. Griffith: Er fod y teulu yma yn sefyll yn uchel o ran ei gysylltiadau yn y Sir, y mae holl nerth yr erledigaeth yn dechreu ymosod arnynt, a hyny yn y modd mwyaf creulawn. Mae Robert Owen yn cael ei ddal ai roddi yn ngharchar Dolgellau. Hen garchar cyfyng, tywyll, llaith, oedd hwn ar lan afon Aran. Cafodd ei adael yno i ddihoeni mewn gwendid am bum mlynedd a haner. Yn y cyfnod hwn, am na allai gynai cyfarfodydd yn ei thŷ fel o'r blaen, byddai ei wraig yn trefnu cyfarfodydd yn y nôs mewn lleoedd dirgel yn ardaloedd y Bwlch Coch a Thyddynygarreg, ac ar hyd Ffriddoedd Dregerrig a Dewisbren, ac ar hyd y coedwigoedd ar ceunentydd yn y gymydogaeth.

Fel canlyniad parhau yn ffyddlon i'w hegwyddorion cafodd y