Tudalen:Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd.pdf/4

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

AR gais y Cyfarfod Misol yr ymgymerais ag ysgrifenu y llyfr a i wneyd hyn orchwyl, ac yn Ionawr, 1897, caniatawyd i mi at fy llaw Gofnodau y Cyfarfod Misol am y blynyddoedd a aethant heibio, yn nghyd a rhai papyrau eraill oedd wedi eu hanfon o'r ardaloedd i'r Proff. Hugh Williams, M.A. Yr amcan oedd rhoi hanes eglwysi y rhan hon o'r sir. Ceir llyfrau eraill yn rhoi hanes y Cyfundeb mewn ystyr fwy cyffredinol, yn y rhai y crybwyllir am rai o'r eglwysi hynaf a phwysicaf; ond nid oes eglwys rhy fechan na rhy ieuanc, i gael sylw yn y llyfr hwn. Ymddengys fod y dymuniad am Hanes y Siroedd, yn dyfod yn un cyffredinol. Y mae Hanes Methodistiaeth Mon a Gorllewin Meirionydd wedi ei gyhoeddi eisoes, a bydd hwn yn drydydd mewn cyfres debygid o lyfrau o'r fath sydd i weled goleuni dydd cyn hir, oherwydd tybiaf fy mod yn clywed trwst tyrfa yn dyfod. Oherwydd ymadawiad rhai eglwysi i ymuno a Chyfarfodydd Misol eraill rai blynyddoedd yn ol, ni allwyd rhoi hanes mor llawn am yr eglwysi hyny ag a roddwyd am y rhai sydd wedi aros, ond dymunaf roi eglurhad mai nid yr angen am dalfyru ond yn hytrach amryfusedd a barodd nad oes cyfeiriad helaethach at y Parch. Eli Evans yn yr hanes am Dolyddelen. Dechreuodd bregethu tua 40 mlynedd yn ol, yr un adeg a'r Parch. G. Owen, a bu yn y weinidogaeth am dros 30 mlynedd. Yr wyf yn cydnabod yn ddiolchgar y rhai a roddasant help i mi i gael y ffeithiau a groniclir yn y gyfrol hon. Crybwyllir enwau rhai ohonynt pan yn cyfeirio at yr hyn a ddaeth oddiwrthynt, a dymunir eto ddiolch iddynt yn y fan yma. Bu rhai Clerigwyr yn hynod gymwynasgar yn gadael i mi weled cofrestr eu plwyfi heb unrhyw dal. Yr wyf dan ddyled i Mr. O. M. Edwards, M.A. am awgrymiadau o werth, ac yn enwedig am fenthyg blocks. Yr un modd yr wyf