Tudalen:Methodistiaeth yn Nosbarth Colwyn Bay.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'u cartref ar y fath neges. Yr ydym yn ofni y bydd gwaed llawer o'n cenedl arnom os na bydd i ni wneyd a allom i'w goleuo am y pechod o ymofyn â'r fath wag swyn; gan ein bod. yn barnu fod pob un a ymyro â'r unrhyw nid yn unig yn warth iddo ei hun, eithr hefyd i'w wlad a'i genedl.

Feallai y dylem ddwyn ychydig resymau, o blith lluaws a ellid en cael, i ddangos i'n cenedl na fu ac nad oes, ac na fydd modd i swyno trwy y Ffynon sydd dan ein sylw, nac yr un ffynon arall ychwaith. Rhai a ddywedant mai'r achos o fod y rhinwedd dychymygol hwn yn y Ffynon hon yw darfod i Sant o'r enw Elían, yn yr oesoedd gynt, gwedi tynu ei gleddyf, ei frathu yn y ddaear yn y lle hwn, nes y daeth allan y ffrwd ddwfr yma, yr hon o hyny allan a alwyd Ffynon Elian, ac felly bod rhinwedd ynddi i iachau, &c. A'r rheswm cyntaf a ddygant i brofi hyny yn awr yw, fod tystion yn yr ardal hon ddarfod i'r Ffynon gael ei symud dair gwaith yn yr oes hon. Darfu un ohonom lenwi yr hen Ffynon âcherig a phridd, a thori twll mewn lle arall i'r ffrwd: ac y mae y dwfr yn dyfod o galon y ddaear, fel dwfr arall; felly nid oes dim achos fod dim ynddi yn amgen na dwfr da.

Eraill a ddywedant fod ganddynt brawf o'i rhinwedd yn clwyfo dyn, ac yn ei iachau, a dywedwn ninnau fod peth tebyg wedi digwydd; ond y gwir achos o hyny oedd hyn, sef bod y cyfryw ddyn yn llawn o ddychymygion oddiar ei gred ddrwg a'i ffydd wan. Gwnaethom brawf amlwg o hyny lawer gwaith. Un tro nodedig, pan ddaeth yma wirion-ddyn o L-n-y-n, gan ddymuno cael ei iachau; cymerasom ef mewn llaw, ac aethom yn nghyd i faes gerllaw Llanelian (nid yn agos i'r Ffynon) at bwll a gloddiasid i ddyfrhau anifeiliaid; ac oherwydd bod yr hin yn frwd, diosgwyd dillad y dyn, ac aed ag ef i'r llyn; ac un ohonom a gododd y dwfr a'r dom â'i ddwylaw ar ei ben ef, gan fragaldio rhyw eiriau annealladwy wrth fyned yn mlaen; gwedi hyny golchodd y dyn yn lân, gan sicrhau iddo y byddai yn gwbl iach cyn pen y mis. Yna aed ag ef i borth yr eglwys, a gorchymynwyd iddo roddi pum' swllt yn y cafn careg; a bod iddo ddyfod yno drachefn yn mhen mis i ddangos ei hun i St. Elian, ei fod wedi ei iachau. Wedi hyn dychwelodd y dyn adref, ac yn mhen y pum' wythnos daeth eilwaith atom yn holliach, gan ddywedyd iddo wellau i'r fath raddau, fel yr oedd ymron yn ei gyflawn iechyd, er bod o hono dair blynedd yn glaf, a'r meddygon wedi methu ei iachau!!! Yna rhoisom ei arian iddo yn ol, gan fynegi iddo yr holl wir fel y buasai yn y tro, a'i gynghori i beidio bod mor wan ei synwyr byth mwy.

Darfu i ni feddwl pan argraphwyd y Dyrïau ar swyn-gyfaredd yn y llyfr a elwir y Powysion, Llyfr II.,' y buasai hyny yn foddion effeithiol i beri i'r Cymry ffieiddio y fath arfer dros byth; ond ofer fu ein disgwyliad; oddieithr nad yw y llyfr