hwnw wedi ei daenu yn ddigonol drwy'r wlad. Pa fodd bynag, yr ydym yn hysbysu i'n cyd-genedl nad oes gan neb un rheswm nac esiampl o blaid swyno yn y Ffynon hon, nad oes modd i ni yn hawdd ei wrthbrofi; a hyny a wnawn, canys y mae Satan wedi ymranu yn ei erbyn ei hun yn awr yn yr ardal hon, a'i deyrnas a syrth.
Os caniata cyhoeddwr 'Y Goleuad,' ni a roddwn eto draethawd i ddangos i'n cyd-genedl pa fodd y gwnaed weithiau beth tebyg i swyn neu gyfaredd trwy y Ffynon hon, a bydded i ddarllenwyr hyn o hysbysiad ei adrodd i'r rhai anllythyrenog yn eu cymydogaeth, canys hwy yn benaf sydd fwyaf tueddol i fyned ar ol swynion. Yr Efengyl a lwyddo i oleuo ein cenedl fel na feiddiont feddwl gydag un math o barch am weigion swynion y fall.
Llaw-nodwyd hyn dros drigolion Llanelian,
gan
Wele eto lythyr a ymddangosodd yn 'Ngoleuad Cymru,' am Tachwedd, 1828—
"FFYNON ELIAN.
Mr. Goleuadwr,—Yr ydym eto yn anturio i faes y frwydr, yn erbyn twyll, hudoliaeth, a swyngyfaredd. A'r peth mwyaf tebygol i'w ddiddymu o blith ein cenedl ydyw dangos iddynt pa fodd y gwnaed yr hyn a alwant yn effaith cyfaredd Ffynon Elian.
Yn ein llythyr o'r blaen eglurasom nad oes dim rhagor rhwng ei dwfr hi a dwfr rhyw ffynon arall, na rhwng y tir y mae yn tarddu ohono a rhyw ran arall o'r ddaear. Gan hyny asgwrn cefn y gred y mae ynfydion yn ei roddi iddi yw y gwyrthiau yr haerant a wnaed drwyddi, megis iachau cleifion, afiwyddo rhai yn y byd, llwyddo eraill, &c. Ac yn enwedig bod Arolygwr y Ffynon (fel ei galwant) yn medru dywedyd neges y dieithriaid cyn iddynt ei mynegi!
Gyda golwg ar hyn, tebygem nad rhaid ond adrodd y chwedl ganlynol:—Tua 40 mlynedd yn ol, daeth dau wr o ardal Ll-n-d-l-s, yn Swydd Dr-f-d-n, ac ymofynasant am y gwr oedd yn edrych ar ol y Ffynon; ac wedi iddynt ddyfod o hyd i wr a gymerai arno fod yn y swydd, efe a fynegodd iddynt o ba le yr oeddynt yn dyfod, a pheth oedd eu neges, ac a roddodd. iddynt eu dymuniad, sef adferiad iechyd i'w chwaer, yr hon. oedd wedi bod yn glaf bum' mlynedd! Felly nid rhyfedd eu bod yn gryf eu coel yn rhinweddau Ffynon Elian.