Wedi iddynt gyrraedd y swyddfa rhoddodd ei thad amlen seiliedig hir yn ei llaw: "Rhowch hwn i Mr. Stephens; gwyddoch lle i'w gael."
Ni bu Nansi'n hir cyn cael 'bus. Wrth deithio yn y modur esmwyth mwynhai'r olygfa brydferth. Dolydd gwyrddion a choedydd deiliog, caeau yn llawn grawn yn dechrau aeddfedu. Tywynnai'r haul a disgleiriai'n danbaid ar y ffordd, ond draw, ar y gorwel, casglai cymylau duon, bygythiol. Er hynny credai Nansi fod glaw yn annhebyg am ysbaid.
Yr oedd wedi un ar ddeg o'r gloch pan gyrhaeddodd Nansi Benyberem. Yr oedd ychydig o waith cerdded o'r 'bus, i swyddfa Mr. Stephens. Cafodd Nansi ef i mewn a rhoddodd iddo yr amlen oddi wrth ei thad.
"Diolch yn fawr i chwi, Nansi," meddai Mr. Stephens, "ac yn awr gaf fi wahôdd merch fy hen gyfaill i ginio gyda mi. Byddaf yn barod ymhen ychydig funudau."
Gan nad oedd dim neilltuol yn galw amdani, derbyniodd Nansi'r gwahoddiad ar unwaith.
Ar ôl cinio mynegodd Nansi ei bwriad i gerdded adref ar hyd yr hen ffordd o Benyberem i Drefaes. "Cymer fwy amser nag ar hyd y ffordd newydd, ond gobeithio y deil y glaw i ffwrdd," meddai.
"Wna hi ddim glawio heddiw," ebe Mr. Stephens, yn obeithiol, "fe gilia'r cwmwl du acw yn y man."
Hen ffordd adeiladwyd gan y Rhufeiniaid oedd hon, yn dirwyn drwy'r bryniau. Rhedai drwy goed tewfrig allan o Benyberem, ac yn fuan äi ar dro tua'r mynydd. Synnai Nansi mor dywyll ydoedd wedi gadael y coed. Nid oedd olwg o dŷ yn unman, a gwyddai Nansi'n dda nad oedd yr un o fewn tri chwarter milltir. Cyflymodd ei cherddediad wrth weld yr awyr mor ddu. Yr oedd rhyw reddf yn dweud wrthi fod storm gerllaw. Yr oedd yr awyrgylch mor drymaidd, a phopeth mor ddistaw. Yn sydyn, dyna fflach mellten, a tharan fygythiol wrth ei sawdl.