"Wedi llwyddo yr ydym hyd yn hyn," ebe Besi'n wrol, "ac fe wnawn yr un fath eleni eto.
Cododd o'i chadair, a chan droi at Nansi, meddai,
"Mae'n siwr nad oes unrhyw ddiddordeb i chwi yn ein helyntion ni. Mae'n wir ein bod yn dlawd, ond gallwn er hynny gynnig cwpanaid o dê i un ddieithr. Esgusodwch fi am funud neu ddau. Af i wneud un."
Bu bron i Nansi wrthod, ond llwyddodd i frathu ei thafod yn ddigon buan pan ddeallodd fod balchter yn perthyn i'r genethod, ac y buasai gwrthod eu caredigrwydd yn brifo eu teimladau.
"Hoffwn yn arw fedru eu helpu," meddyliai Nansi. "Efallai y gallaf berswadio Besi i weithio ar ffrog i mi."
Yn fuan daeth Besi i mewn â hambwrdd yn ei llaw, a lliain glân, gwyn fel eira, yn orchudd arno. Tywalltai dê ag urddas, fel pe'n ei dywallt i frenhines. Yr oedd cacen ar yr hambwrdd hefyd.
"Fûm i erioed yn bwyta gwell cacen," ebe Nansi toc, gan wenu'n galonnog.
"Byddai f'ewythr Joseff yn dweud nad oedd hafal i Besi am wneud cacen," meddai Glenys.
Yr oedd Nansi'n glust i gyd pan glywodd y gair Joseff. Tybed mai Joseff Dafis ydoedd? Pur annhebyg. Ac eto, cofiai i'w thad ddweud wrthi ychydig ddyddiau cynt bod dwy eneth tua Mur y Maen ddylasai fod yn ei ewyllys, ac nid oedd Mur y Maen ymhell o'r lle hwn. "Y mae'n werth gwneud ymholiad, beth bynnag,' meddyliai Nansi wrthi ei hun.
"Felly bu farw eich ewythr?" gofynnai, yn llawn cydymdeimlad.
"Nid oedd Joseff Dafis yn ewythr i ni mewn gwirionedd," ebe Besi, "ond hoffem ef yn fawr, ac edrychem arno bob amser fel perthynas i ni. Yr oedd yn byw wrth ein hymyl, pan oedd nhad a mam yn fyw.'
Aeth teimladau Besi'n drech na hi, a pharhaodd Glenys gyda'r hanes.
"Un o'r dynion anwylaf a welsoch erioed ydoedd.