"Nid wyf wedi bod yn ffodus iawn yn ystod y tri mis diwethaf yma. Nid wyf yn pryderu cymaint amdanaf fy hun, ond am Glen" a'i llais yn torri, "addewais i mam yr edrychwn ar ei hôl. Yr wyf yn mynd i boeni pan fethaf gadw fy addewid olaf iddi hi."
Rhedodd Glenys at ei chwaer a rhoddodd ei dwylo am ei gwddf yn gariadus.
"O Besi," meddai yn edifeiriol, "ddylaswn i ddim fod wedi dweud yr un gair am ein hangen."
"Ond dyna'r gwir."
"O, mi ddeuwn ymlaen yn iawn, Besi annwyl. Pe bai arian fy ieir i yn dod yn gyflymach. O, pam na fedr iâr ddodwy mwy nag un wy yn y dydd."
Gwenodd Besi ar ddigrifwch Glenys, ac i dorri ar yr awyrgylch bruddaidd, meddai Nansi,
"Prynnaf ddefnydd yn barod i chwi, a deuaf ag ef yma y tro nesaf gyda mi."
Nid oedd angen dilledyn arni, ond methai ganfod unrhyw ffordd arall i helpu'r genethod heb frifo eu teimladau. Gwyddai eu bod yn rhy falch i dderbyn swm o arian, heb gyfle i wneuthur rhywbeth amdano.
"Yn awr, yr wyf am ofyn ychydig yn ychwaneg o gwestiynau am Joseff Dafis," meddai Nansi wrthynt. "Yn gyntaf, a fyddai yn ymweled â rhai o'r perthynasau eraill heblaw y Morusiaid?"
"O byddai," atebai Glenys yn eiddgar. "Ymwelai ag amryw eraill yn aml."
"Cyn iddo fynd i fyw at y Morusiaid ymwelai â hwynt oll yn eu tro," ychwanegai Besi.
"A fedrwch chwi roddi enwau'r lleill i mi?"
"Wel, arhoswch funud. Dyna ei ddwy gyfnither, y ddwy Miss Harris. Hen ferched hynod garedig. Buont hwy yn rhyfeddol o ofalus o Joseff Dafis tra bu gyda hwynt. Ym Mhenyberem y maent hwy yn byw."
"Yna mae dau nai i Joseff Dafis," ebe Glenys, "yn byw mewn fferm i fyny ar y mynydd rhwng yma a Phenyberem. Enw'r fferm yw Dolgau. Yr oedd pawb yn credu y caent hwy ran o'r eiddo beth bynnag."