Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gallaf alw yn y ddau le felly ar un siwrnai," ebe Nansi. "Pe cychwynnwn yn awr, gallaswn ymweld â hwy, a chael y 'bus adref o Benyberem. Af yn awr, a gobeithio ar ôl siarad â'r perthynasau hyn y caf oleuni pellach ar bethau."

"Ofnaf mae pur anobeithiol ydyw arnom," meddai Besi, "mae'r Morusiaid yn rhy alluog i enethod fel ni."

"Yr unig beth sydd arnom eisiau, Besi, ydyw yr ewyllys. Unwaith y cawn honno, gall y Morusiaid ganu ffarwel i'r cwbl sydd ganddynt."

"O Besi, anghofiaist ddweud wrth Nansi am Abigail Owen," ebe Glenys, "ni fuasai'n syndod i mi na ŵyr hi fwy na fawr neb am yr ewyllys.

"Eithaf gwir," ebe Besi, "yr oeddwn innau wedi anghofio amdani am y funud. Dylech alw i'w gweld hi, Nansi. Hi ofalodd am fy ewythr pan oedd yn wael iawn. Teimlai yr hen Joseff yn ddyledus iddi, a chlywais ef â'm clustiau fy hun yn dweud na byddai byth yn edifar ganddi."

"Buasai hyd yn oed ugain punt yn ffortiwn iddi hi," ebe Glenys. "Mae yn awr yn hen a methiantus. Y mae'n siwr ei bod dros ei deg a thri ugain, ac nid oes ganddi neb i ofalu amdani."

"Ymhle mai hi yn byw?" gofynnai Nansi.

"Yr ochr arall i Benyberem, yn nes i'r mynydd mewn bwthyn digon diaddurn. Rhaid i chwi ymholi yn y ffermdai cyfagos pan ewch yno. Nid yw yn hawdd dywedyd wrthych yn union ymha le y mae.

"Tan y Bwlch yw enw'r lle," ychwanegai Glenys.

"Mae'n amhosibl imi fynd i'r tri lle heddiw, ebe Nansi. "Ceisiaf gael cyfle i fyned yno yr wythnos nesaf." Ffarweliodd Nansi a'r genethod yn frysiog. Danfonodd y ddwy chwaer hi i'r ffordd. Cyflymodd ei cherddediad i geisio cyflawni ei bwriad cyn gynted ag y gallai.

"Nis gwn beth wnaf os methaf â helpu'r genethod yna yn awr, " meddai wrthi ei hun wrth frysio ymlaen. Disgynnai'r ffordd yn raddol am y dref a gallai gerdded