ar yr un pryd yr oedd cyn belled ag erioed. Yn ddios yr oedd cyfrinach yr ewyllys gan Abigail Owen, ond ynghlô yn ei hymenydd. Efallai na fedrid byth ddatod y clo. Efallai na fedrai yr hen wraig byth gofio beth ddywedodd Joseff Dafis am yr ewyllys, oddi gerth i rywbeth anarferol gynhyrfu ei chof.
"Ceisiwch gofio,"crefai Nansi'n daer.
Yr oedd yn amlwg mor ymdrechgar ydoedd yr hen wraig i geisio cofio. Ond yr oll gafodd Nansi ydoedd ei gweld yn syrthio'n ôl ar y clustogau wedi llwyr ddiffygio. Yr oedd ei llygaid ynghau.
A'r foment honno, trawodd y cloc un,—dau,—tri. Ac ar y trydydd sŵn o'r hen gloc agorodd Abigail ei llygaid yn gynhyrfus, a daeth rhyw wedd ddieithr dros ei hwyneb. Am ennyd syllodd yn syth o'i blaen. Yna trodd i edrych ar y cloc ac ni thynnodd ei llygaid oddi arno.