Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X
DADLENIAD ABIGAIL

PAN beidiodd y cloc daro symudodd gwefusau Abigail. Nesaodd Nansi Puw ati rhag ofn iddi golli yr un gair. Gwelodd fod y cloc wedi deffro lleoedd cudd meddwl yr hen wraig, a chredai y caffai glywed o'r diwedd rywbeth a gafael arno.

"Y cloc," sibrydai Abigail, mor ddistaw fel mai prin y gallai Nansi adnabod y geiriau. "Dyna fe, y cloc.'

"Beth am y cloc?" gofynnai Nansi, a'i gwefusau wrth glust Abigail. "Ai mewn cloc y cuddiodd Joseff Dafis yr ewyllys?"

"Na," meddai Abigail, a'i llais erbyn hyn yn gryfach. "Meddyliais am foment fy mod wedi ei gael, ond llithrodd o'm cof eto. Cofiaf iddo ddweud rhywbeth am gloc ond nid dyna oedd."

Daliai Abigail i syllu ar y cloc o hyd, a Nansi gyda hi. Methai hi ddeall y cysylltiad rhwng y cloc a'r ewyllys goll. Yn sydyn eisteddodd yr hen wraig i fyny. "Dyna; daeth yn ôl i mi fel saeth. Ar ôl yr holl fisoedd———."

"Dywedwch wrthyf," gorchmynnai Nansi'n dawel. Yr oedd ei hangerdd am i'r hen wraig siarad bron a'i gorchfygu, ond ofnai ei chynhyrfu rhag iddi anghofio drachefn.

"Dyddlyfr," ebe Abigail yn llawen, fel pe bai baich oddi ar ei hysgwyddau, "rhywbeth am ddyddlyfr."

"Ie, ond beth ddywedodd am ddyddlyfr?" anogai Nansi.

"Cofiaf yn dda yn awr. Ysgrifennodd Joseff ei ewyllys yn ei ddyddlyfr. Un diwrnod dywedodd, 'Abigail, pan fyddaf farw, gwylia rhag ofn na ddaw fy ewyllys i'r amlwg. Os na ddaw i'r golwg mae popeth yn ei chylch tufewn i'r llyfr bach hwn'."

"Beth ddaeth o'r dyddlyfr, Miss Owen?"