Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/78

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mrs. Morus. Ar un llaw nid oedd arni eisiau gwrthod merch y dyn mwyaf dylanwadol yn Nhrefaes, ac ar y llaw arall nid oedd ganddi ronyn i'w ddweud wrth Urdd Gobaith Cymru. Yr oedd Mrs. Morus yn enghraifft odidog o'r crach-fonedd. Arian oedd ei pheth ac addolai aur pa le bynnag y gwelai ef. Er fod y teulu'n gefnog gwyddai pawb mor grintach ydoedd Mrs. Morus ac mor amharod i helpu neb ond ei hun.

"Faint ydyw'r tocynau, Miss Puw?"

"Hanner coron yr un, Mrs. Morus."

"Hanner coron am glywed rhyw gôr o blant yn canu. Ni chlywais i'r fath beth erioed," protestiai Mrs. Morus. "Fe gofiwch mai at yr ysbyty yr â'r elw. Mae at achos teilwng iawn."

Cyn i Mrs. Morus ateb daeth Gwen a Phegi i mewn i'r ystafell. "Yn awr amdani," meddai Nansi wrthi ei hun. Heb sylwi ar Nansi cwynent yn uchel wrth ymddiosg ynghylch rhywbeth. Pan welsant Nansi yn eistedd yn dawel o flaen Mrs. Morus, ni fedrent yngan gair a safasant yn fud gan syllu arni'n syn.

"Y mae Miss Puw yn gwerthu tocynau at rhyw gyngerdd," eglurai Mrs. Morus iddynt.

"Cyngerdd plant yr Urdd," ychwanegai Nansi'n hamddenol, "yr elw at yr ysbyty.'

"Tocynau wir," ebe Gwen yn ffiaidd, "gadewch iddynt mam. Nid oedd wedi anghofio'r tro diwethaf y gwelodd Nansi, a dyma gyfle i dalu un pwyth bach yn ôl.

"Ond Gwen," ebe Mrs. Morus, "rhaid inni brynu tocynau neu beth feddylia pobl Trefaes ohonom?"

"Peidiwch bod yn ffôl, mam," atebai Gwen. "Peidiwch â gwastraffu arian ar yr Urdd lol yna. Awn ni ddim i'r cyngerdd beth bynnag, ac yr wyf yn siwr na ddaw nhad ychwaith."

"O'r gore," ebe Mrs. Morus. "Os mai felly y bydd, ni bydd angen tocynau arnom.

Cododd Nansi ar ei thraed yn gyndyn. Gwelai fod y merched yn bwrpasol anfoesgar tuag ati ac yr oedd ei