Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nansi'r Dditectif.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwaed yn berwi yn ei gwythiennau. Ond daliai i gofio beth oedd gwir amcan ei hymweliad.

Fel y troai i adael yr ystafell gwelai fod Mr. Morus wedi cyrraedd y tŷ. Yr oedd wedi dyfod i mewn mor ddistaw fel na welodd neb ef yn dod i'r ystafell. Clywodd beth o'r sgwrs heb i neb ei weled.

"Hanner munud, Miss Puw," meddai, "sawl tocyn sydd gennych?"

"Pedwar, Mr. Morus," meddai Nansi yn foesgar, a'i llygaid yn agor â syndod.

"Rhowch hwy i mi," atebai yntau gan estyn allan ei law amdanynt. "Hanner coron yr un, onide? Dyma nodyn punt amdanynt. Nid oes eisiau newid ohono. Rhowch yr oll at yr ysbyty."

"William," ebe Mrs. Morus mewn syfrdandod, "beth ddaeth dros eich pen? Papur punt?"

"Oni fedrwch weld ymhellach na'ch trwyn?" atebai ei gŵr, "yr ydych beunydd yn ymboeni ynghylch troi ymysg pobl orau Trefaes. Bydd ein henwau yn y "Trefaes Chronicle" am hyn.'

Eisteddodd i lawr mewn cadair esmwyth gan groesi ei goesau, a phigodd bapur newydd o'r rhestl wrth ei ochr. Ni chymerai unrhyw sylw o neb arall yn yr ystafell. Gwyddai Mrs. Morus o brofiad nad oedd wiw ymresymu'n mhellach, a theimlai Nansi fod ei hymweliad hithau yn awr yn hollol ar ben.

"Diolch yn fawr i chwi," meddai, ac ni allai yn ei byw beidio rhoi tinc o falais yn ei llais. "Rhaid i minnau fynd yn awr; faint o'r gloch yw hi tybed?"

"Dyna gloc o'ch blaen," ebe Gwen yn swta. Hawdd gweld ei bod hithau'n berwi.

"Wel, ie'n wir," ebe Nansi. Edrychodd ar y cloc fel pe heb ei weld erioed o'r blaen. "Ai cloc Joseff Dafis ydyw?" gofynnai'n ddiniwed. "Nid oes dim yn y byd mor ddiddorol i mi â hen ddodrefn."

"Na, choelia'i fawr. Costiodd hwn lawer mwy na'r cloc adawodd Joseff Dafis i ni," ebe Mrs. Morus yn