PENNOD XII
AR OL Y CLOC
AR y ffordd adref y sylweddolodd Nansi'n hollol yr hyn amlygodd Pegi iddi. Yr oedd y cloc yn y byngalo ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd gan amryw o drigolion Trefaes hafotai ar lan y llyn. Aent yno dros bob gŵyl bron, yn enwedig y Pasg a'r Sulgwyn, a thros wyliau'r haf. Synnai Nansi erbyn iddi feddwl na bai'r Morusiaid yno hefyd. "Efallai mai yr ewyllys sydd yn eu poeni. Efallai na theimlant yn ddiogel heb ryw sicrwydd amdani."
Ond yr hyn a barai gysur i Nansi oedd y ffaith fod gwersyll yr Urdd eleni hefyd ar lan Llyn y Fedwen. Yr oedd Syr William Elffin yn garedig wedi rhoddi ei ganiatâd i wersyllu yn ei barc, ymhen uchaf y llyn, a llai na phedair milltir oddi yno, yn y pen isaf yr oedd y drefedigaeth fechan o hafotai.
Nid oedd Nansi erioed wedi bod yn y llecyn o'r blaen. Gwell bob amser fyddai ganddi hi a'i thad dreulio eu gwyliau ar lan y môr. Ni wyddai pa un o'r hafotai berthynai i'r Morusiaid, ond gwyddai'n dda y gallai yn hawdd ddod o hyd iddo, a hithau yn gwersyllu mor agos. Ac unwaith y canfyddai'r bwthyn, yr oedd yn benderfynol y gwelsai'r cloc.
Nid oedd awydd yn Nansi rywfodd i ddweud dim am y cloc wrth ei thad. Yr oedd am wneud yn sicr o bopeth i ddechrau ac am beri syndod iddo ar y diwedd os y gallai. Nid oedd raid iddi wrth esgus am fynd i Lyn y Fedwen. Gan mai dydd Iau ydoedd, yr oedd yn hwylus iddi i drefnu i fyned gyda'r genethod y Sadwrn dilynol.
Y noson honno, wrth y bwrdd swper, ebe Nansi,
"Nhad, byddaf yn mynd i wersyll yr Urdd ddydd Sadwrn. Bydd arnaf eisiau siopa ychydig yfory." Dyna ffordd Nansi o ddweud wrth ei thad fod arni angen pres.