"Mae'n dda gennyf eich bod yn mynd. Nid ydych wedi ymddangos yn rhy dda yn ddiweddar, a bydd awyr iach y bryniau yn lles i chwi."
Bore drannoeth aeth Nansi i orffen ei siopa. Prynnodd ddefnydd er mwyn mynd ag ef i Besi a Glenys fel yr addawodd. Aeth yno atynt yn y prynhawn. Cafodd y ddwy i mewn ac mewn penbleth amlwg. Yr oedd Glenys mewn profedigaeth. Yr oedd rhywbeth yn difa ei chywion ieir. Ac ar ben y cwbl yr oedd gwaith gwnïo i Besi yn brin.
"O na bai f'ewythr Joseff wedi cofio amdanom,' gofidiai Besi, "a glywsoch chwi rywbeth ymhellach am yr ewyllys, Nansi?"
"Dim gwerth ei adrodd," atebai Nansi, gan droi y cwestiwn o'r neilltu, "ond yr wyf yn dal i obeithio."
"Byddaf yn meddwl weithiau nad yw'n werth inni obeithio," meddai Glenys.
Trodd Nansi'r stori. "Deuthum â'r defnydd i chwi ei wneud yn ffrog imi," meddai.
"O diolch i chwi," meddai Besi yn llawen, "yr wyf mor falch o gael rhywbeth i'w wneud.
"Hoffwn gael talu yn awr," ychwanegai Nansi, "yr wyf yn mynd i wersyll yr Urdd yfory, ac efallai na chaf gyfle i alw am ysbaid eto."
"Dim talu nes gorffen y gwaith," atebai Besi'n benderfynol.
Nansi ddigalon oedd yn troi yn ôl i Drefaes. "O na chawn afael ar y dyddlyfr yn yr hen gloc," meddai. Cododd ei chalon wrth feddwl am trannoeth.
Deg o enethod Trefaes oedd yn mynd i wersyll yr Urdd y tro hwn. Aent gyda 'bus a golygai daith o ryw bymtheg milltir i groesffordd Pen y Llyn. Yr oedd gwaith milltir o gerdded i'r gwersyll ar ôl hynny. Ni fu erioed ddeg geneth hapusach yn cychwyn i unlle, ac yn sŵn yr holi a'r ateb a'r chwerthin a'r hwyl buan iawn y daethant i groesffordd Pen y Llyn. Gadawsant y modur yn llawen a chyn hir daethant i olwg y gwersyll. Gwelent