Chwech o enethod oedd yn y cwch a chymerwyd y rhwyfau gan ddwy ohonynt.
Fel y symudai'r cwch i ganol y llyn, credai Nansi na welodd erioed olygfa mor hardd. Machludai'r haul yn goch o'u golwg a thaflai ei belydrau olaf ar yr awyr uwch eu pennau a'r dŵr oddi tanynt. Edrychai ffenestri'r tai ar y lan yn dân coch. Pan oedd ar ymgolli yn hyfrytwch yr olygfa dygwyd hi'n ôl wrth gofio ei hamcan.
"Y mae gan deulu Gwen a Phegi Morus dŷ yma yn rhywle, onid oes?" gofynnai'n ddistaw i Rona.
"Oes, draw yr ochr arall. Awn heibio iddo yn y man," atebai hithau.
"Tybed a ydynt yno yn awr?"
"Na, nid ydynt wedi dod yma eleni am ryw reswm neu'i gilydd. Ond y mae rhywun yn edrych ar ei ôl iddynt.
Daliai Nansi i gwestiyno. "A ydyw yn anodd cyrraedd ato?" gofynnai drachefn.
"Nac ydyw. Mae'n hawdd i'w gyrraedd gyda'r cwch, ond y mae ffordd go faith wrth amgylchu'r llyn ar y lan."
Yr oedd gofyniadau Nansi yn dechrau deffro diddordeb Rona. "Paham eich bod mor awyddus i wybod cymaint am y Morusiaid, Nansi?" meddai. "Holasoch lawer arnaf y dydd o'r blaen hefyd."
"O," meddai Nansi'n gyflym, "nid oeddwn yn holi am ddim yn neilltuol. Gwyddoch nad ydynt yn rhyw gyfeillion mawr iawn i mi."
Ymhen ychydig daeth y cwch yn nes i lan y llyn. "Dacw hafoty'r Morusiaid, Nansi," ebe Rona, gan gyfeirio ei bys at adeilad sylweddol a safai heb fod ymhell o fin y dŵr.
Trodd Nansi i edrych arno yn iawn. Syllodd arno yn hir fel y gallai fod yn sicr o'i gofio pan fyddai eisiau. Rhoddodd ef yn ddiogel yn ei meddwl ar gyfer y dyfodol.