dwylo, gwthiodd ef i'r dwfn. Gafaelodd yn y rhwyfau a dechreuodd dynnu'n araf am ganol y llyn. Yr oedd y llyn fel gwydr ac nid oedd gwmwl yn yr awyr. Nid oedd y rhwyfo ond fel pob rhwyfo arall. Anelodd yn syth am yr hafotai ymhen isaf y llyn.
"Gobeithio fod y gofalwr o gwmpas ac y caf siawns i edrych dros y byngalo," meddyliai.
Ond nid oedd Nansi i gyrraedd y lan draw y dydd hwnnw. Nid cynt oedd y geiriau o'i genau nag y collodd rwyf, a llithrodd y cwch yn gyflym oddi wrtho yn ei bwysau. Prin y medrai Nansi sylweddoli beth oedd wedi digwydd am ennyd.
"Beth a wnaf yn awr?" meddai yn uchel.
Yr oedd yn llithro'n araf yn nes i ganol y llyn, ymhellach ymhellach o'r gwersyll bob eiliad. Gwelai ei rhwyf ychydig o'i hôl. Ceisiodd ei gyrraedd â'r rhwyf arall. Cododd ar ei thraed a bu bron iddi a dymchwel y cwch a disgyn i'r dyfroedd.
Nid oedd yn anghyfarwydd a "scwlio," a cheisiodd wneud hynny â'r rhwyf oedd ganddi o starn y cwch. Ond buan iawn y daeth i ganfod mai ychydig o gynnydd wnai'r llestr y ffordd honno. "Nid oes dim i'w wneud ond gadael i'r cwch ddod i dir," meddai. "Gallaf ei rwymo a cherdded yn ôl i'r gwersyll.
Erbyn hyn yr oedd y cwch, drwy ryw ffrwd yn y llyn, gyferbyn â hafoty'r Morusiaid. Yr oedd yr adeilad wedi ei argraffu ei hun ar feddwl Nansi fel nad oedd yn bosibl iddi ei anghofio. Gwelai nad oedd mwg yn y simnau a theimlai'n ddig wrthi ei hun am fod mor ddiofal gyda'r rhwyf. Cofiodd am yr hen linell, "Rwy'n agos iawn ac eto 'mhell," ac ni allai lai na gwenu.
Daeth y syniad i nofio i'r lan iddi, ond nid oedd yn hoffi'r syniad o gerdded yn ôl i'r gwersyll yn ei dillad glybion, er dichon na welid hi gan neb. Yr oedd y cwch wedi arafu ei symudiad cryn lawer erbyn hyn, ac yr oedd awel ysgafn o ben isaf y llyn yn dechrau ei glosio i fyny'r dyffryn. Teimlai Nansi yn bur oer a digalon.