Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'u dylanwad ar adeiladau a chynlluniad heolydd y Llanelli newydd, nag y mae hen eglwys Llanelli wedi adael ar y capeli. Ychydig o ddelw yr hen eglwys sydd ar demlau newyddion y dref. Gwahaniaethant yn fawr oddiwrthi yn mhob ystyr.

Y prif fasnachwr yn Llanelli yw Mr. Wm. Thomas. Mae ei fasnachdy helaethfawr yn cynwys block anferth. Dirfawr synid fi wrth gael fy arwain trwy ei wahanol adranau. Ac eto, mae y perchenog cyfoethog yn hollol ddiymhongar. Gallasai yr anghyfarwydd dybied am dano fel dyn ysgafn cyffredin. Efe a gerdda oddiamgylch gydag edrychiad diniwed. Ymddyddaner ag ef, a bydd ei lais yn wanaidd a chrynedig. Bydd ei dremiad yn wylaidd. Ac eto, o dan y ffurf wladaidd yna y mae y cymwysderau masnachol dysgleiriaf yn llechu. Medr ymaflyd yn arddwrn masnach, a rhwydd gyfrif curiadau ei gwaed. Medr weled yn llawer pellach a chliriach na gwyr yr yspien-ddrychau a ddringant safleoedd uchel i dremio ar gwrs trafnidiaeth a marchnadoedd y byd. Y mae yn Llanelli amryw fasnachwyr llygad-graff, ond y mae William Thomas yn drymach na'r oll gyda'u gilydd. Y mae rhai o honynt yn teimlo hyny hefyd. Tra yr oeddwn yn ymddyddan ag ef, ymsyniwn am dano fel enaid y busnes mawr a wnelid o'i gwmpas: gwelwn y lle yn fyw fel cwch gwenyn, gan brynwyr a gwerthwyr prysurol, a rhyfeddwn at y ffaith mai y dyn hamddenol diniwed hwn oedd prif symudydd yr holl beirianwaith. Yr eglwys Fedyddiedig Seisnig sydd, er's amryw flynyddau, yn cael y fraint o'i fynwesu ef fel aelod. Braint fawr i'r eglwys hono ydyw hyny. Y mae yn rhyfeddol o hael-