Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ionus. Mae ei galon yn agored at angenion crefyddol. Tra y mae ei roddion yn dywysogaidd o fewn cylch ei enwad ei hun, y mae yn cyfranu symiau mawrion yn fynych at achosion perthynol i enwadau eraill.

Yn Llanelli y cartrefa Gwilym Evans, gwneuthurwr y "Quinine Bitters." Gelwais yn ei gyfferdy ef. Dangosodd i mi ranau o'r busnes a garia yn mlaen. Pan y dangosai i mi y symiau tra mawr o arian y mae efe yn eu talu i berchenogion papyrau am hysbysiadau, yr oeddwn yn cael fy nharo gan syndod. Cefais ef yn foneddwr yn ngwir ystyr y gair. Credaf fod Gwilym Evans yn gwir haeddu y gefnogaeth a dderbynia, yn gartrefol a thramor.

Yn eglwys Calfaria y mae brawd o ddiacon o'r enw Thomas Williams, dilledydd. Pan yn gwasanaethu yr eglwys hono deuais i gysylltiad ag ef, a dywenydd. mawr i mi ac yntau oedd y cyd-gyfarfyddiad, canys yr oeddym gyfeillion cynes gynt yn Porthmadog. Yr oedd efe yn un o'r brodyr hyny a ymadawsant o Seion ar adeg sefydliad eglwys Calfaria. Nid yn aml y cyfarfyddir a brawd mor selog a brwdfrydig.

Dysgwyliaswn gyfarfod a'r brawd John Rees, Minnesota, yn Llanelli, ond er fy ngofid, yr oedd wedi dychwelyd i America er's rhai wythnosau. Gwelwn un tebyg iawn iddo ef yn ei frawd, a thebyg iddo hefyd yn ei natur dda garedig.

Mae marchnad Llanelli, ar nos Sadwrn, yn werth ei gweled, o'r hyn lleiaf, yr oeddwn i yn teimlo hyny pan yn rhoddi tro ar nos Sadwrn trwyddi. Dymunol oedd gweled y bobl yn prynu ac yn gwerthu. Wrth sylwi arnynt, yr oedd llawer o bethau yn dod i'r meddwl.