Ymsyniwn mor haelfrydig yw rhagluniaeth fawr y nefoedd yn ei rhoddion i ddyn. Effeithiol ar fy nheimladau oedd gweled y merched gyda basgedi yn y farchnad yn prynu at angenrheidiau y Sabboth; ac yn neillduol wrth weled hen boblach gynil ddarbodus yn nesu yn mlaen i brynu. Gwelwn fod yr hwn sydd yn gofalu am adar y to yn ffyddlawn i'w addewid iddynt.
Gelwais yn Llwynhendy. Derbyniwyd fi yn groesawus gan y gweinidog poblogaidd, y Parch. R. D. Roberts. Pan yn pregethu, eisteddai o dan y pwlpud, ond yn gwynebu ataf. Rhoddai hwyl fawr i mi, a dilynid ef gan eraill. Un rhagorol yw am helpu y llefarwr. Ei gynulleidfa ef oedd y fwyaf y bum yn ei hanerch ar noson waith yn holl Gymru. Dywedir fod Mr Roberts yn parhau yn ei boblogrwydd gartref ac oddi cartref. Yn y cyrddau mawrion, yn agos a phell, prin fod neb mor boblogaidd. Yn niwedd yr oedfa, estynai anwyl fam y Parch. Charles Davies, Lerpwl, ei llaw ataf, yr hyn a barai i mi londer ysbryd pan ddeallais pwy ydoedd. Gwerthfawr genyf oedd cael o gymdeithas Mr. Roberts, y gweinidog. Ymddangosai yntau yn foddhaus anarferol pan yr adroddwn iddo fel y cofiwn am dano ef a'i gydymaith, y Parch. John Jones, Llanberis, yn dod i'r Garn, pan oeddynt yn dechreu pregethu, dros ddeugain mlynedd yn ol.
Y Felin-foel oedd le arall y bum. Profodd y vestry yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa a ddaethai yn nghyd. Gan hyny, rhaid oedd myned i'r capel, a chapel ardderchog ydyw, o gynlluniad y Parch. Henry Thomas. Mae y Parch. John Jones, y gweinidog, yn llenwi cylch pwysig. Efe ydyw golygydd Seren Cymru.