aswn yma drafod pregethwyr Cymru mewn dull llymfeirniadol, buaswn yn rhwymo fy hun, yn ol pob rheol deg, i fyned trwy holl gwrs y ddysgyblaeth yn y dyfodol. Pell oddiwrthyf fyddo honi y fath hunan-bwysigrwydd. Bwriadwyf yn hytrach i'r ychydig sylwadau a wnaf yma, gynwys yn unig draethiad syml o deithi a chymeriad presenol pregethwyr a phregethu yn y wlad hono ag y mae agweddau ei bryniau prydferth mor arwydd-luniol o bwlpudau ei chapeli.
Dealler mai am bregethwyr a phregethu yn mhlith y Bedyddwyr y cyfeiriwyf yn benaf yn ein sylwadau.
Ugain mlynedd yn ol, sefydlwyd Undeb Bedyddwyr Cymru. O'r Undeb hwn y mae llawer o ddaioni i'r enwad wedi ffynonellu. Urddasolodd yr enwad â'i gweithrediadau. Y mae ei ddylanwad daionus yn parhau. Nid y lleiaf o'r ffrydiau bendithfawr a dardda allan o hono, yw y ffrwd iachusol hono a reda i gyfeiriad y pwlpud. Daw y gangen ffrwd hon i gysylltiad a'i gwrthddrychau mewn gwahanol fanau. Fel prif le cyd-gyfarfyddiad, nodaf gyrddau blynyddol yr Undeb. Yno mae yn ffrydio yn rhaiadr lifeiriol ar weinidogion a phregethwyr. Peth gwerthfawr er meithrin uchelgais dyladwy mewn gweinidogion yw nôd uchel. Mae cyrddau yr Undeb yn cynysgaeddu nôd felly. O'r blaen, yr oedd uchel-fanau uchelgais yn gyd-wastad. Nid oedd y Gymanfa, fel cynt, yn meddu safle arbenigol i'r teilwng. Gynt, y pregethwyr blaenaf a safent ar y muriau. Edrychid i fyny atynt gan bawb. Y pryd hwnw yr oedd gan weinidogion ieuainc, ac eraill anhysbys, nôd uwchafol i gyrchu ati. Yr oedd yr atdyniad at i fyny yn cyrhaedd trwy holl gylch llefarwyr cy-