Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoeddus israddol. Yn anffodus, tynwyd y pwlpud uchel i lawr at safle y cyffredinolion. Yr annheilwng, yn lle ymgymwyso at safle y pregethwr mawr, a hyf ymwythiodd i'r safle cyn ei haeddu, a dilynwyd ef gan y lluaws eiddigeddus. Tynwyd yr uchelfan gysegredig i wastadedd dinodedd. Y canlyniad fu dirywiad alaethus. Yr oedd adferyd stage y Gymanfa i'w huchder gyntefig y pryd hyn yn anmhosibl mewn ffordd uniongyrchol.

Cyn hir, megys trwy ddylanwad greddf bywyd, ffurfiwyd yr Undeb ar raddfa fawr, eang a chyffredinol, i gynwys yr holl Gymanfaoedd. Mwyach yr oeddynt hwy yn is-ddarostyngol i awdurdod uwch. Daeth esgynlawr yr Undeb yn uwch na stage y Gymanfa. Dyma arbenig-fan newydd i'r teilwng. Os meiddia yr annheilwng i'r fan hon, dibrisir ef hyd lawr. Ofer yw i neb ond y medrus anturio i'r fath le. A thra y dalio yr esgynlawr hwn i gadw fyny ei gymeriad uchel presenol, bydd yn fendith i urddas y weinidogaeth yn yr enwad.

Caed safle i'r llefarwr yn uwch ar ochr mynydd Seion nag a geid yn y Gymanfa gynt. Caed canolbwynt anrhydeddus i edrych i fyny ato. Caed nôd teilwng o flaen uchelgais gweinidogion ieuainc. Ac mae cyrhaedd rhagoriaeth fel llefarwr ar esgynlawr yr Undeb, bydded araeth, draethawd neu bregeth, o angenrheidrwydd yn feithrinol i urddas pregethwrol.

Mae yr Undeb yn gweithredu yn ffafriol i'r pwlpud mewn ffyrdd eraill. Mae dynion goreu yr enwad yn bresenol, ac yn arfer eu dylanwad yn y cynulliadau blynyddol. Yn mhresenoldeb y rhai hyn, cywilyddia