Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galonau celyd. Ni fyddai geiriau Duw trwy y fath genadon, yn dychwelyd yn weigion. Glynai y saethau yn nghalonau gelynion y brenin. Yr oedd y gwrthgloddiau mwyaf nerthol yn gorfod rhoi ffordd. Nid oedd yr elfenau dwyfol yn colli eu cymeriad trwy fyned trwy fyfyrdod a thraddodiad y genad. Hawdd oedd canu :

"Cerdd yn mlaen, nefol dân,
Cymer yma feddiant glân."

Prif lyfrau pregethwyr yr oes o'r blaen, heblaw y Beibl, oedd eiddo yr hen Buritaniaid ar y priodoleddau dwyfol. Trwy y cyfryngau hyn, deuent i gysylltiad uniongyrchol a'r nerthoedd hanfodol er gwneyd argraffiadau dyfnion ar bobloedd. Caffai y pregethwyr olwg eang ar y priodoleddau dwyfol yn ngweithiau y bobl dda hyny.

Yr oedd yr hen Buritaniaid wedi cyfansoddi eu gweithiau rhagorol yn ngoleuni tanbeidiol y diwygiad Protestanaidd. Pan ruthrodd Luther fawr wrol allan o ganol caddug yr eglwys Babaidd, gan ddal i fyny yn ei law ffaglen ddysglaer, yr athrawiaeth o gyfiawnhad trwy ffydd, caed golwg newydd ar y cymeriad dwyfol. Oddiwrth y goleu newydd hwn daeth goleuni y Puritaniaid; ac oddiwrth y naill a'r llall y daeth y diwygiad Protestanaidd i Loegr a Chymru. Cyfranogai pregethu yr oes o'r blaen o'r dylanwad gogoneddus hwn.

Yn bresenol, mae y dull yr edrychir ar y cymeriad dwyfol i raddau yn gwahaniaethu. O'r blaen, yr oedd cyfiawnder, gallu, doethineb a gras yn ffynonellau dwyfol ddylanwad. Yn awr, mae cyfiawnder a thoster o'r golwg-gras i gyd ydyw llais y weinidogaeth.