Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ychydig o bregethu uffern a geir yn y pregethu presenol. Y mae yr arddull yn felodaidd a maddeugar iawn ei thôn. Y mae yr effeithiau yn niweidiol ar y pregethwr ac ar y bobl. Y mae yr olwg a gymerir ar y priodoleddau dwyfol yn rhy gyfyng ac un-ochrog, ac oblegid hyny mae y pregethu yn gyfyng ac un-ochrog. Y mae yr oll o'r priodoleddau wedi eu bwriadu i dywynu allan yn y weinidogaeth efengylaidd ar gyflwr andwyol a cholledig euog ddyn. Ac nid cynt nag y daw y weinidogaeth i wisgo y nodwedd eang yna y gwelir pregethu Cymru yr hyn ag y dylai fod.

PENOD XVII.

Yn Abertawe

Daethum i Abertawe gan ddysgwyl cael y dref yn dwyn nodwedd Seisnig estronol; yn debyg fel y mae Caerdydd a Chasnewydd. Modd bynag, nid hir y bum yn y dref heb deimlo fy mod wedi mawr gamsynied. Yn lle bod y dref yn ymarweddu mewn agwedd ddyeithriol felly, canfyddwn ei bod yn Gymreig garuaidd. Ceir ynddi lawer o siarad Saesoneg, mae yn wir, ond mae teimlad ac ysbryd y dref yn Gymreig. Pan y deuais i gysylltiad deimladol gyntaf ag ysbrydiaeth Gymreig Abertawe, cofiaf yn benodol mor fwyn-ddymunol y teimlwn. Profwn y chwaon Cymreig o'm cylch yn debyg i leddf awelon cyntaf gwanwyn. Tybiaswn yn sicr fy mod yn ei anadlu, nes ymloni o honwyf.