Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/192

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd bron i gyd o gymydogaeth Llangloffan; efallai fod dau neu dri yn aros hyd yr awrhon.

Ddydd Sadwrn cyrchwn i Groes-goch. Ni wyddwn Ꭹ ffordd yn dda. Holwn y plant a chwareuent ar yr heolydd yma a thraw, am y ffordd i Groes-goch. Cyfarwyddent fi yn ddioed, ond trwy iddynt siarad yn fuan, a defnyddio geiriau dyeithr i mi, ni allaswn haner eu deall. Ebe merch fach, "Ewch dros y sdigil ycw, a thrwy y fidir, a trowch ar y llaw aswy, ac yna trwy iêt fach yn y fan draw." Ystyr "fidir" fel y deallais wedi hyny, ydyw "Mair-dir."

Dydd Llun daeth y Parch. Mr. Phillips, gweinidog Groes-goch, gyda mi i Tyddewi. Ar ein ffordd yno galwasom yn hen gartref y Parch. James G. Davies, Beulah, Mynwy. Pan yn dychwelyd i'r brif-ffordd, cyfarfyddem a dyn yn llonaid trol fechan o ddigrifwch, yn cael ei dynu gan asyn.

Yn Tyddewi, dygwyddodd i mi fyned yn ddiarwybod, i le peryglus anghyffredin, o flaen ffroen canon mawr. Bu yr anffawd fel y canlyn: Aeth Mr. Harris, y gweinidog, â Mr. Phillips a minau i gael golwg ar yr hen eglwys Gadeiriol, yr hon oedd ar y pryd yn myned dan adgyweiriadau pwysig. Yn gymaint a bod y drysau yn agored, aethom yn ddiseremoni i mewn iddi, ac yna yn mlaen trwy ei gwahanol adranau nes dyfod o honom i'r cysegr sancteiddiolaf. Nid cynt nag yr oeddym yno, y cawsom ein hunain o flaen y Canon. Efe yn cael golwg bregethwrol arnom a'n cyfarchai yn foneddigaidd, ac mewn modd teilwng o bersonau o urddau felly. Dychwelai y ddau frawd y moes-gyfarchiadau yn ol gyda llog, ond dygwyddodd i'r anys-