twythder a'm poenodd tua Nanhyfer, fy meddianu yn ddisymwth fel i'm lluddias i wneyd dim o'r fath.
Y Parch. Aaron Morgan yw gweinidog Felin-ganol a Solfach. Dywedir fod yr achos yn y ddau le yn. myned rhagddo. Yn Solfach mae yr hybarch William Owen (Caerdydd gynt), yn byw. Llogodd efe gerbyd i fyned a fi i Blaenllyn, a daeth y Parch. Mr. Morgan gyda mi yn gwmpeini. Galwasom ar ein ffordd yn Pen-y-cwm, cartref Mr. Edward Evans, brawd i'r diweddar William Morgan Evans, Argraffydd, Caerfyrddin.
Mawr y cyfnewidiad a welwn yn Trehael. Y Parch. Mr. Thomas, gwr y ty, yn ei fedd er's blynyddau; a'r plant oeddynt fychain pan arferwn alw gynt, wedi hen dyfu i oedran. Mae caredigrwydd y teulu i bregethwr yn parhau yr un peth.
Hebryngwyd fi dranoeth mewn ychydig fynydau i Hwlffordd. Yr oedd sioncrwydd y ceffyl, esmwythder y cerbyd, hoenusrwydd y gyrwr, natur dda pobl Trehael, dymunoldeb y tywydd, a neillduolrwydd y golygfeydd, yn gwneyd y frys-daith hon yn hynod bleserus. Gwelwn Hwlffordd wedi heneiddio. Dydd Sadwrn ydoedd. Yma cyfarfyddais a'r Parch. Aaron Morgan ar ei ffordd i Lanelli erbyn y Sabboth. Treuliasom rai oriau gyda ein gilydd. Aethom i weled y Coleg Newydd a'r Hen Goleg. Ger yr Hen Goleg boddlonais chwilfrydedd fy nhraed trwy ganiatau iddynt gamu ar riniog drws y gegin lle y buasent yn camu lawer gwaith o'r blaen; ac yr oeddynt yn llawn trydan boddhaol.
Fel y deuem ein dau heibio ffrynt capel Bethesda,