Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Llonwyd ni yn fawr wrth gyfarfod â rhai o'n cyfeillion Cymreig yno. Un oedd y brawd W. R. Williams, Pittston, Pa., yr hwn oedd newydd lanio, ac yn prysuro i Gymru am wellhad iechyd. Yr oedd yr ychydig eiriau a gawsom â'n gilydd fel y diliau mêl. Dau eraill oeddynt Mr. W. Cynwal Jones a'i briod, o Utica, N. Y. Siarsem ar iddynt ein cofio at gyfeillion yr ochr draw i'r dwfr.

Ar ol tridiau ymadawodd y brodyr W. M. Evans a John Rees, y cyntaf i Dalywern, Trefaldwyn, a'r olaf i Lanelli, Sir Gaerfyrddin. Yr oedd rheffynau serch yn dyn wrth ymadael.

Y boreu Sabboth canlynol aethom i gapel y Bedyddwyr Cymreig yn Everton Village. Y frawdoliaeth a gyferfydd yma yw hen eglwys Great Cross-hall Street; y gweinidog ydyw y Parch. Charles Davies, brodor o Lwynhendy, gerllaw Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Mae ei fam yn chwaer i'r hen frawd duwiol a pharchus, David H. Thomas, Mason City, West Va. Daeth i'w faes presenol o Fangor, Gogledd Cymru, lle y buasai yn gweinidogaethu gyda llwyddiant mawr amryw flynyddau wedi ei ddyfodiad o'r coleg. Tra yno daeth yn ffefryn yn y cyrddau mawrion, yn mhell ac yn agos, a phery felly hyd eto.

Er ein siomedigaeth, nid efe, ond Mr. Davies, gweinidog newydd Birkenhead, a lenwai y pwlpud. Newidiasai y ddau frawd bwlpudau, yn ol arferiad cyffredin gweinidogion Cymreig y dref foreu Sabboth. Cafwyd, er hyny, bregeth fuddiol ar y tri rhinwedd, "Ffydd, Gobaith, Cariad," ac addoliad hapus. Wrth weled y fath gynulleidfa Gymreig fawr a chyfrifol, ymsyniwn