Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor fendithiol ydyw crefydd y Cymry iddynt mewn tref mor wyllt-ddrygionus, a chymaint o addurn ydynt hwythau i'w crefydd a'u cenedl wrth fod yn ffyddlon fel hyn iddi.

Yr oedd un peth yn rhoddi boddhad neillduol i mi yn y capel hwn, sef y sêt fawr, yn cael ei llenwi gan y diaconiaid. Yr oeddynt yn saith neu wyth mewn rhifedi, a phob un o honynt yn gwisgo ardrem foneddigaidd a chrefyddol. I ganu, yr oedd pawb yn codi. Y pryd hyn cymerai Mr. Roberts, arweinydd y gân, dyn ieuanc cyfrifol, ei safle yn nghanol y diaconiaid, yn y sêt fawr, a phob un o'i frodyr yn meddu ei lyfr emynau yn ei law, ac yn ei ddefnyddio, gan wynebu y gynulleidfa. A hardd oedd yr olwg arnynt! Yn add- ́ urn i ben amryw o honynt yr oedd coron o benllwydni, ac eraill â'r goron hono ar gael ei rhoi iddynt. Yr crganydd, yntau, gyflawnai ei ran yn fedrus; a thrwy fod y gynulleidfa yn cyd-ganu, yr oedd yn y lle "swn addoli " yn wir. Cofiaf gyda boddhad hiraethlon am y cyfarfod foreu y Sabboth hwn yn Everton Village.

Prydnawn y Sabboth hwn cefais y pleser o bregethu i gynulleidfa barchus y Parch. L. W. Lewis (Lector), ac yn yr hwyr i'r frawdoliaeth fechan yn Seaforth.

Methais lwyddo i weled ond ychydig o'r capelau Cymreig. O holl gapelau yr Annibynwyr, capel eang Dr. John Thomas yn unig a welais. Cefais gipdrem allanol ar gapel mawr y Methodistiaid Calfinaidd yn Bootle. Yn ffrynt yr adeilad hwn y mae y geiriau Saesneg canlynol ar astell yn gwynebu y brif heol"Presbyterian Chapel," ar yr un astell, yn gwynebu heol onglog y mae y geiriau, "Capel y Methodistiaid