ni o'r blaen ynghylch torri'r cnau yn yr ysgol, ac wedi deyd be fydde'r gosb. Pan oedd o heb fod yn edrych, mi fydde ene dorri mawr, a gwthio'r blisg i hinjis y ddesc, a phan fydde raid codi a gostwng y ddesc, roedd hi'n helynt. Aethom i'r ysgol y pnawn cyn yr un yr ydwi'n mynd i sôn amdano fo, yn iawn. Wedi canu, dyma rannu'r slaets i ddechre sgwenu. Yn hollol sydyn mi eis i yn wyn ac yn chwys drosta i gyd.
"Edward Roberts," medde Joseph, "ydech chi'n sâl?"
Edward Roberts ydi f'enw iawn i wyddoch; ond fydda i ddim yn ei glywed o ond ganddo fo, a chan Jane Jones, Tyddyn Derw, pan yn mynd yno i nôl llaeth. Fedrwn i ddim deyd wrth Joseph mod i'n sâl, o achos toeddwn i ddim; a fedrwn i ddim deyd nad oeddwn i ddim, o achos roeddwn i'n teimlo fy mod i. Mi ddeyda i chi be oedd y mater. Roedd fy mhensel i yng ngwaelod fy mhoced, o dan y cnau i gyd, a'r cnau wedi'u gwthio i mewn mor dyn fel na fedrwn i yn fy myw fynd yn agos ati hi. Fe welodd y bechgyn i gyd yn syth be oedd y mater, am nad oedd o'n ddim byd newydd; ond fedre nhw ddim cynnyg benthyg pensel i mi heb i Joseph weld. Doedd dim i'w neud ond aros fel roeddwn i,—edrych arno fo heb ddeyd dim. Meddyliodd Joseph mod i'n mynd i ffeintio, a gyrrodd fi allan i'r awyr iach. Ac allan â mi gymint fyth. Yn hynny mi fethes. Mae'n debyg fod yr hen Joseph wedi ameu ar fy ffordd o fynd allan nad oeddwn i'n rhyw ffeintlyd iawn, am fy mod wedi mynd ar ddau gam. I ffwrdd â mi i gefn yr ysgol o'r golwg, ac mi deimles fy ngore am y bensel o'r tu allan i waelod poced