Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Nedw (llyfr).djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NEDW.


I.—HET NEWYDD F'EWYRTH JOHN.

"Nedw," medde Wmffre Pont Styllod, "ddoi di i hel crabas yn lle mynd i'r ysgol y pnawn ma?"

Er mwyn i chi ddallt pethe, fi ydi Nedw, a nghefnder ydi Wmffre.

Adeg hel cnau a chrabas yn y Tyno oedd hi. Does ene ddim coed yn y Tyno, ond coed cnau a choed crabas. Ac ar yr adeg yma ar y flwyddyn, mae hi bron bod yn nefoedd ar y ddaear arnom ni, fel mae nhw'n canu yn y capel. Ni fase eisio dim chwaneg i'w gneud hi'n nefoedd hollol, onibae am Joseph y Titshar. Ar ganol dydd y byddwn ni'n hel cnau, a fi ac Wmffre ydi'r ddau heliwr gore. Mi ces hi'n ofnadsen gan Joseph un diwrnod, a dene pam nad ydi hel cnau a chrabas yn nefoedd hollol. Roedd y scŵl ei hun yn digwydd bod yn sâl. Mae o'n well siort na Joseph. Wedi bod yn hel yr oedd Wmffre a minne, a lot o rai erill, ac yn dwad yn ol i'r ysgol â'n pocedi'n llawn,—dwy boced ein trowsuse, a dwy boced ein jecedi, nes oedden ni bob un yn edrych fel y peth mae nhw'n alw'n falŵn, sy â'i llun yn llyfr Standard IV. Wrth lwc, roedden ni'n ddigon buan i'r ysgol y pnawn hwnnw, ac am hynny doedd gan Joseph ddim byd i ddeyd, er ei fod o'n llygadu'n arw wrth weld y bechgyn yn dwad i mewn fel clomenod wedi hanner eu saethu, eu hadenydd nhw'n gostwng, a'u coese wedi chwyddo. Roedd o wedi'n siarsio