ti ddim wedi d'eni. Mae'n rhyfedd meddwl fod neb yn y lle yma, hefyd, heb ei nabod o. Ond rwyt ti'r un ffunud a fo, Nedw. Mae'r hen wraig wedi deyd hynny lawer gwaith."
Wel, wir, rydwi'n methu dallt pobol. Mae nhad a mam yn hollol wahanol i'w gilydd. Ond mae rhai'n deyd mod i run bictiwr â nhad, eraill mod i run ffunud â mam. A dyma ddeyd rwan mod i'n debyg iddo fo, ond neb yn deyd mod i 'n debyg i mi fy hun.
"Nedw," medde dewyrth toc, "dos eto ar flaene dy draed i edrych be mae hi'n neud."
Mi es, ac wedi dwad yn ol, "Ar ei glinie wrth yr hen gader y mae hi o hyd," medde fi, "ond bod ei phenelinie hi ar y gader rwan, a'i dwylo ar ei gwyneb fel tase hi'n deyd ei phader, ac mae'i gwefuse hi'n mynd. Ond rydwi'n siwr mai deyd rhywbeth arall y mae hi, o achos fase neb yn deyd ei bader ar amser cinio, ai fase dewyrth?"
"Wel," medde dewyrth yn drist, "mi fydd yn well toc. Gobeithio y closhith hi dipyn yn nes at y Brenin Mawr."
"Lle mae'r cadeirie erill?" medde fo yn y man.
"Ar dop y bwrdd," medde fi.
"A'r ffendar a'r stôl haearn?"
"Ar dop y bwrdd."
"A'r canwyllbrenni pres a'r scelet?"
"Ar dop y bwrdd."
"A'r setl?"
"Ar dop y bwrdd."
"Ia, meddwl amdano fo mae hi," medde dewyrth, "a phan fydd hi'n meddwl mwy na'i gilydd amdano fo mae hi'n cael y ffit lân yn drom iawn. Mi fase'n biti iddo fo ddwad i dŷ budur. Dos i edrych eto." A dene fi'n mynd.