peth sydd rhynga i a ti, rhynga i a ti y mae o, yntê, machgen i?" Aeth ymlaen am dipym wedyn i smocio'r dim byd yma, gan bwffian yn ysgafn o hyd.
"Dos ar flaene dy draed," medde fo'n union, "ac edrych trwy ffenest y siambar, i weld be mae hi'n neud."
Mi es fel y deydodd o. "Ar ei glinie mae hi," medde fi, wedi dwad yn ol, "wrth y gader yr eisteddes i arni, ac yn ei dystio fel tase hi ddim yn ei gweld hi, ac yn edrych i'r lle tân."
Ac yn wir, roedd yr olwg ryfedda ar bodo. Ar ei glinie o flaen y gader yma roedd hi, yn edrych fel tase hi'n cysgu â'i llygid yn agored, ac yn dystio. Mae'n debyg mai ceisio dystio sêt y gader oedd hi, ond doedd hi ddim yn ei chyffwrdd y rhan fwyaf o'r amser. Roedd hi'n dystio'r awyr ryw ddwy neu dair modfedd uwchben sêt y gader, ac yn edrych felly i'r tân, a siarad rhyngddi a hi ei hun.
"Meddwl amdano fo mae hi," medde dewyrth, "dene'i gader o ar y Sul, wyddost."
"Ia," medde dewyrth ymhen tipyn,—"ei gader o ar y Sul oedd hi." Yna aeth â'i ben i'w blu. "Ia," medde fo fyth a hefyd, "ei gader o oedd hi ar y Sul." Ac anghofiodd dewyrth bopeth amdana i.
Mi rois gic bach i'w ffon o toc, ac mi ddeffrôdd. "Ia," medde fo, "ei gader o oedd hi,—helo, Nedw, ac rwyt ti yma? Rhosa di," medde fo dan sirioli, "ddaru rhywun ddeyd wrthyt ti dy fod di'n debyg iawn iddo fo?"
"Pwy ydi o?" medde fi.
"Be! doeddet ti ddim yn ei nabod o?" medde dewyrth, fel tase rhywun wedi ei daro,—"ac mae cymint o amser a hynny? Erbyn meddwl, 'doeddet