cael eistedd arni o gwbwl rwan. Dydi hi ddim yn ei phethe'n rhyw dda iawn byth er pan ddaru hi ddigio tipyn wrth y Brenin Mawr. Dydi hi ddim ar delere da efo'r Brenin Mawr o gwbwl rwan. Mi dreuliodd lawer ar ei glinie wrth y gader ene yn gofyn i'r Brenin Mawr roi'i aden drosto fo, ond ddaru o ddim dybygswn i, os nad oedd o 'n gwrthod mynd dan ei aden o wedi cael cynnyg. Mae ffordd fel ene o edrych arni, wyddost. Ac am wn i nid ar y Brenin Mawr oedd y bai." Yn y fan yma mi ddaru rhyw ddeigryn bach hel i gornel llygad dewyrth. "Gad inni droi'r stori, Nedw," medde fo. "Faset ti'n licio imi dy holi di eto?"
Yn gweld y plesie hynny fo, mi ddeydes "baswn."
"Wel," medde dewyrth, "prun ai gŵr priod ynte hen lanc oedd Paul?"
"'Dwn i ar wyneb y ddaear," medde fi. "Mi allswn i feddwl mai hen lanc."
"Pam?" medde dewyrth.
"Doedd o byth adre," medde fi.
"Dydi'r ateb ene'n deyd dim, mae o'n torri ddwy ffordd," medde dewyrth. "Gŵr priod oedd Paul iti." Ac mi drychodd arnai'n hir tan smocio'r cetyn anweledig yma, yn disgwyl i mi ofyn cwestiwn iddo.
"Sut ydech chi'n deyd hynny?" medde fi o'r diwedd.
"Mae ene adnod yn deyd,—'Pwy a'm gwared i oddiwrth gorff y farwolaeth hon?'" Ac medde fo wedyn dan ei lais,—"Mae nhw'n deyd mai at ei wraig roedd o'n cyfeirio. Ac mae'n hawdd gen i 'u coelio nhw, achos un garw am siarad ar ddamhegion oedd Paul." Bu'n ddistaw am dipyn wedyn, ac yna dwedodd dan ei lais,—"Nedw, y