Mi cadwes o ym mhoced fy nhrowsus dros y nos, a'r unig anlwc oedd iddo fo ddwad yn rhydd, ac i minne dorri orniment wrth ymbalfalu amdano yn y twllwch. Ond deliais o'n sâff, a chadwes o dan y gobennydd tan y bore.
Sôn am boblogiedd,—doedd dim siawns i neb ond fi bore drannoeth. Chai neb weld y slum, ond ar yr amod eu bod nhw'n dwad â hanner dwsin o biwied i'w fwydo, o achos mai ar biwied y mae o'n byw. Wmffre oedd yn derbyn a chyfri'r piwied, a minne wedyn yn dangos y slum. Wedi ei weled o, doedd na byw na marw na chai Robin bach Ty'n Llidiard y slum yn eiddo iddo fo'i hun. Roedd o'n barod i roddi unrhyw bris amdano, medde fo, o feipen i wningen fach. A dene'r slum yn mynd iddo am wningen. Ond erbyn bore drannoeth roedd y slum wedi marw. Robin oedd wedi trïo rhoi pry copyn yn fwyd iddo, ac ynte'n byw ar y pethe a ddalie pan ar ei aden. A phwy erioed a welodd bry copyn yn hedeg? Felly, mi welsom un peth, fod pryfed cop yn wenwyn i slumod.
Ar amser chware, dene Sec yn codi ei fys arna i,—
"En-ne-edw," medde fo,—"by-by-brech-d-a-an i m-i-i am sy-sy-slum."
A dene fargen. Roedd gen i slum arall yn mynd i mewn ar ol amser chware, ac mi werthes hwn hefyd i Robin am wningen. Roedd rhyw wendid am slumod wedi dwad ato fo. Erbyn hyn roedd gen i ddwy wningen. Roedd gan amryw o'r bechgyn wningod, a dene'r gair allan fod Nedw'n barod i werthu unrhyw nifer o slumod i'r bechgyn am wningen yr un, neu ryw bris rhesymol arall. Welsoch chi rotsiwn beth y pnawn hwnnw. Roedd gan bron bob bachgen yn yr ysgol wningen efo