fo, a chyn gynted ag y troai'r scŵl ei gefn, yn galw arna i—dydi'r scŵl ddim yn clywed yn dda o gwbwl—ac yn dangos pen gwningen i mi o'u pocedi,—rhai o bob math a lliw, gwyllt a dôf. Rydwi'n siwr fod ene tua naw neu ddeg, i gyd. Amser chware roedd pawb yn gwthio ei wningen i mi am slum, a minne heb ddigon o slumod i'r farchnad. Mi addewes ddyfod â stoc newydd i'r ysgol drannoeth. Llwyddodd Sec i gael tri neu bedwar imi rywfodd, yn ystod y nos, ac addawodd beidio â deyd gair wrth neb amdanyn nhw. O dipyn i beth daeth holl wningod y lle yn eiddo imi. Ar ol i rai ohonyn nhw farw, ac i'r gath fwyta dwy, roedd gen i bump wedyn. Mi gadwes dair a rhoi dwy i Wmffre. Roedd hynny'n ardderchog, nes iddi ddwad yn bwnc o fwyd iddyn nhw.
Mae cael digon o brofant i gymint ag oedd gen i o wningod yn dipyn o beth. Mi weles ei bod yn haws dal piwied i slumod na hynny. Cynghorwn bawb i gadw slum yn lle gwningen, yn enwedig gan fod rheswm arall tros ei gadw y cai sôn amdano eto.
O'r diwedd darfu gwningod y bechgyn. Doedd gan neb yr un i gynnyg i mi, ac yr oedd pawb eisio slum. A doedd hi ddim yn deg gwerthu rhai slumod a rhoi'r lleill. Y peth y methe plant ei ddallt oedd, ymhle y cawn i 'r holl slumod yma, ac yr oedd Sec wedi addo peidio â deyd, na gwerthu rhai ei hun, ar draul colli ei damed. Felly, mi gefes, rydwi'n meddwl, y peth mae nhw'n ei alw'n "patent" ar slumod, er nad ydwi ddim yn siwr mod i'n dallt y peth yn iawn. Er mwyn bod yn siwr, mi ofynnes i John Roberts, y post, ar y ffordd un diwrnod. Mae o'n giamstar ar y pethe yma, medde nhw.