i weld, gan wasgu ar fy mrest, ac ar y funud, pan drois i fy mhen i ddeyd wrtho am beidio, mi drôdd y slum gan sgryffinio fy llaw, a gollynges o heb yn wybod i mi fy hun. Roeddwn i wedi bwriadu gollwng un ymhellach ymlaen, pan fydde cosb Sec ar ddigwydd, er mwyn i'r scŵl weld nad oddiwrtho fo y doi'r slumod, ond nid cyn hynny. Mi ddisgynnodd y slum yn union ar ben Isaac, ac wedyn rhyngddo a'r scŵl, gan ddechre crafangu ei drowsus, a'i ddringo, a dene sgrêch annaearol, a'r plant yn ferw i gyd. Chawsom ni ddim ond cau'r caead, nad oeddem ni'n siwr fod pob llygad yn edrych tuagatom.
"What's this again?" medde'r scŵl. Ni atebodd neb am funud, ond yn y man, ynghanol distawrwydd mawr, dene ateb o'r pen arall i'r ysgol, oddiwrth ddesc y scŵl,—
"A-sy-sy-slum, sy-y-r, slumsyr."
Doedd dim posib bod Sec wedi taflu hwn, ac ar bwys hyn anfonwyd ef i'w le heb ei guro am y llall chwaith. Mi ochneidiodd Wmffre a fi yn rhydd wedi gweld arbed Sec rhag ei gosbi.
Roedd yr ysgol yn ferw, fel y deydes i. Ond o ble doi'r slumod? Aeth y scŵl a Joseph y Titshiar allan, wedi cysidro tipyn. Roeddem ni'n gweld tipyn o'r symudiade trwy hollt bach yng nghaead y manol. Wedi iddyn nhw fynd, dene fi'n codi'r caead ac yn edrych i lawr. Gwelodd pawb fi, a dene tshiars i mi, o achos gwelsant yn syth delere'r addewid am slum yn rhad,—eu dal wrth iddynt ddisgyn o'r seilin. Mi wyddwn na ddeyde neb wrth y scŵl, o achos yr oedd rhai o fechgyn cryfa'r ysgol ymysg y rhai oedd wedi rhoddi maip a phethe erill i mi am slumod ar dryst, a gwae neb a achose iddyn nhw golli eu slumod.