Dene'r scŵl a Joseph yn ol yn y man, efo rhywbeth fel tri neu bedwar coes brwsh wedi eu rhwymo wrth ei gilydd. Caeais y caead pan weles i nhw'n dwad. Roedd yn hawdd gweled eu hamcan,—edrych oedd y caead yn peidio â bod wedi symud, a'r slumod yn dwad y ffordd honno. Eisteddodd Wmffre a fi ar y caead yn syth. Dene'r ffyn i fyny, a'u taro yn y caead o hyd ac o hyd, ond symude fo ddim. "Mae honene'n iawn beth bynnag," medde'r scŵl. "Mi drïwn y llall rwan." Roedd cymint o ferw a sŵn yn yr ysgol erbyn hyn, fel nad oedd yn anodd i Wmffre a fi redeg ar draws y seilin at y llall heb i neb ein clywed ni. Ac erbyn iddyn nhw gyrraedd a dechre curo'r caead hwnnw, roeddem ni ill dau yn eistedd yn gyfforddus arno. Dene ddistawrwydd mawr. Y cwestiwn i'r plant a ninne oedd, beth wnai'r scŵl.
"Wel," medde fo, "does dim amser i chwilio mwy tan ar ol yr ysgol. Awn ymlaen yrwan efo'n gwaith."
Ac ymlaen yr aethant, a ninne'n dau reit falch fod yr hen Sec yn sâff, yn enwedig gan inni fod o dipyn o fantes iddo ymgodi, trwy fod yn achos iddo ateb un cwestiwn yn gywir yn yr ysgol unweth yn ei oes.
Pnawn Gwener oedd hi. Cyn gynted ag y cawsom le, i lawr â ni twy'r manol, ac efo ochor yr hen gloc mawr, ac allan trwy ffenest adre. Llwyddasom i dalu ein dyled o slumod i bawb oedd wedi prynu rhai, cyn iddi dwllu'r nosweth honno.
Roeddem ni'n meddwl mai ni fase popeth fore Llun, wedi llwyddo i gael slumod i gymint o'r bechgyn, ac wedi dwad o hyd i stoc newydd, a pharatoisom ein hunen ar gyfer y ganmolieth,