trwy ofalu dwad i'r ysgol wedi molchi ein gyddfe, ac iro'n sgidie. Meddyliem wrth glywed y bechgyn yn canmol, y tynne hynny sylw'r merched. A dene lle byddem ni i dderbyn eu sylw nhw yn smartiach na neb. Ond siomwyd ni yn fawr. Chawsom ni mo'r croeso a ddisgwyliem o lawer. Yn wir, edrych yn bur ddigalon yr oedd y bechgyn i gyd, bob tro y deuem i'r golwg, yn enwedig arna i, ac ambell i un â golwg drymllyd iawn ar ei wyneb,—yn enwedig o'r rhai oedd wedi prynu slum am wningen.
Methem ddallt pethe am dipyn, ond fuom ni ddim yn rhyw hir iawn heb ddwad i'r gole,—y slumod oedd i gyd wedi marw, a'r gwningod gennym ni, a hynny oedd yn spâr o'r maip.
Wedi bod dan y digalondid hwn o eiddo'r bechgyn am dipyn, a chysidro yn o drwm, mi ddarun deimlo mai braidd yn ormod o faich i'w cadw oedd y gwningod, yn enwedig pan fydde'r bwyd yn brin. Felly, fe'u gwerthwyd i'r bechgyn yn ol, ar y peth mae pobol yn alw yn delere rhesymol. Y fargen ore gês i, oedd darn o gŵyr crydd gan Shoni'r Pentre am ei wningen o yn ol.
A dene'r rheswm arall y sonies amdano, pam ei bod hi'n fwy manteisiol cadw slumod na gwningod,—mae nhw'n siwr o farw cyn i chi lân flino arnyn nhw.
Fel y gallsech feddwl, dipyn yn dwyll ydi hi ar farchnad Sec yrwan. Ond wedi'r cwbwl, wnaiff hi mo'r tro iddo lwgu, a 'does dim i neud ond imi ddal i rannu fy nghinio efo fo, nes i'r cnau daear fod yn addfed. Rydwi'n dallt arno fo nad oes mo'i well am eu ffeindio nhw.