"Ond Edward, ymhle mae Caer?"
"T'wnt i Wyddgrug," medde nhad, gan ddal gyda'r gwaith cyrlio mŵg.
Ond yr oedd mam wedi deffro drwyddi erbyn hyn. "Nid t'wnt i le'n y byd ydwi'n feddwl, Edward," medde hi, "ond prun ai'r ffordd ene, neu'r ffordd ene, neu'r ffordd ene, neu'r ffordd ene, y mae Belgiam," gan bwyntio at y tân, y drws, y grisie, a'r ffenest, yn ei thro, gan fod y pedwar hyn un ymhob ochor i'r tŷ.
Deffrôdd hyn nhad hefyd. Trodd ati'n bwyllog. Edrychodd arni'n hir a syn, a mam â'i phen ar un ochor fel Robin Goch yn chwilio am beryg, a'i bys yng nghornel ei cheg yn disgwyl wrtho.
"Wel, Ann," medde fo, "fedra i ddim deyd, o achos tydwi ddim yn siŵr o gyfeiriad llefydd o'r tŷ newydd yma."
Y gwir ydi na fu o erioed yn siŵr, o'r hen dŷ chwaith, ond bod yn dda cael rhyw esgus i mam pan fydde hi wedi deffro'n derfynol o'i phendympian.
"Y cwbwl wn i," medde fo, "ydi fod Belgiam 'rywle yn Ffrainc,' fel y bydd y bechgyn yma'n deyd."
Doedd hyn ddim yn ddigon i mam. Roedd arni eisio gwybod i ba gyfeiriad yr oedd Belgiam o'r tŷ. A doedd na byw na marw na cheisiwn i gael allan hynny iddi. Ond wedyn peth annifyr i fachgen yn Standard IV. ydi bradychu ei anwybodaeth trwy chwilio'r map am le y gŵyr pawb amdano.
Ond 'roedd mam yn benderfynol o gael gwybod nes i lythyr ddwad ryw fore oddiwrth Huw. Yna collodd bob diddordeb ym Melgiam. Roedd o wedi mynd i rywle arall medde fo yn hwnnw, na wyddem ni ddim amdano. Pwy alwodd y